Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Diolch i'r holl arwyr yng Ngogledd Cymru sydd wedi cefnogi Cadwch Curiadau!

Newyddion Cadwch Curiadau

Diolch i'r holl arwyr yng Ngogledd Cymru sydd wedi cefnogi Cadwch Curiadau!

Os ydych chi wedi'ch ysbrydoli ac yr hoffech chi gefnogi Cadwch Curiadau a'n helpu ni i achub mwy o fywydau, yna cysylltwch â ni i gael llawer o syniadau codi arian:

keepthebeats@wales.nhs.uk

01248 384395

Criw Dydd Mawrth

Diolch yn fawr iawn i Criw Dydd Mawrth am roi £500 i Cadwch Curiadau. Mae'r arian hwn yn rhodd wych fydd yn elwa pawb sy'n byw yng Ngogledd Cymru, a bydd yn ein helpu i wella ein cyfraddau goroesi ataliad y galon. Diolch yn fawr iawn.

Caravan Cutters Ruthin

Diolch yn fawr iawn i Caravan Cutters yn Rhuthun, a'r holl ffermwyr sy'n ein cefnogi. Daliwch ati â'r gwaith da!

Super Heroes checking their defib

Dyma grŵp gwych o Archarwyr yn brysur yn gwirio eu diffibriliwr cymuned ac yn hyrwyddo CPR... Ydych CHI wedi gwirio eich diffibrilwyr cymuned yn ddiweddar er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio? Os oes gennych broblem â'ch diffibriliwr cysylltwch â Tomos, eich Swyddog CPADS: tomos.hughes@wales.nhs.uk

Demonstrating what is inside an AED box

Diolch am ddangos i ni beth sydd yn y bocs. Pan rydych yn ffonio 999, bydd y gweinyddwr ambiwlans yn dweud wrthych ble mae eich diffibriliwr agosaf ac os oes angen, yn rhoi'r cod allwedd i'w agor i chi.

Rhos Street School

Ysgol Stryd y Rhos, rydym yn diolch i chi unwaith eto am darfu ar eich diwrnod ysgol i helpu Cadwch Curiadau, wneud fideos CPR addysgol, rydym yn gobeithio y bydd yn helpu i achub llawer o fywydau yng Ngogledd Cymru.

CPR demo in supermarket

Diolch am gymryd yr amser pan oeddech yn siopa heddiw i roi cynnig ar CPR, sgil sy'n cymryd ychydig o funudau yn unig i'w ymarfer, ond gall achub bywyd rhyw ddiwrnod. Anfonwch eich lluniau hyfforddiant CPR at BCU.KeepTheBeats@wales.nhs.uk, a byddwn yn eu rhannu â chymuned Gogledd Cymru.

Schools using defib

A oes gan eich ysgol diffibriliwr? Os nad oes gennych, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â SADS UK, elusen y galon fydd yn eich helpu i ddechrau ar eich ymdrech codi arian i brynu un, mae ganddynt lawer o syniadau codi arian, ac maent yn angerddol dros helpu bob ysgol a chymuned yng Ngogledd Cymru i gael eu diffibriliwr eu hunain, gydag un amcan yn unig....i achub mwy o fywydau. Gallwch gysylltu â nhw ar www.sadsuk.org.uk.

Paramedic using defib

Meddwl prynu diffibriliwr? Yna prynwch un sy'n gydnaws â'r gwasanaeth ambiwlans, a'n helpu ni i gadw diffibrilwyr cymuned yn gweithio, ac yn barod pan rydym eu hangen fwyaf. Cysylltwch â swyddog cefnogi PADS Gogledd Cymru am fwy o wybodaeth am ddiffibrilwyr tomos.hughes@wales.nhs.uk

Wedi cael eich ysbrydoli? I gyfrannu £5 yn awr, tecstiwch KTB i 70500 a bydd 100% o'ch rhodd yn mynd tuag at achub bywydau gyda CPR yng Ngogledd Cymru.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here