Awyr Las yw eich Elusen GIG lleol. Mae Awyr Las yn helpu i sicrhau bod pobl ar draws Gogledd Cymru yn elwa o Wasanaethau GIG gwell pan fydd arnynt eu hangen fwyaf.
Mae'ch cymorth yn rhoi gwên ar wynebau ac yn helpu i ddarparu mannau gwell! Diolch i bobl arbennig fel chi, gall Awyr Las ddarparu gwasanaethau ac offer sy'n newid bywyd i gleifion mewn ysbytai a chymunedau ar draws Gogledd Cymru. O bethau bach fel cadeiriau cyfforddus i gleifion yn yr Adran Achosion Brys ac i’r rheiny sy’n cael dialysis, i dechnoleg o'r radd flaenaf ar gyfer unedau canser, strôc a gofal arbennig i fabanod - mae hyn i gyd yn gwneud gwahaniaeth.

Gallwch chi gefnogi y ward sy'n agos at eich calon gyda Awyr Las, Elusen GIG Gogledd Cymru!
Sut rydym ni’n helpu...
Diolch i'ch cefnogaeth chi, mae Awyr Las yn ariannu offer o'r radd flaenaf a chyfleusterau newydd; hyfforddiant staff ychwanegol ac ymchwil o'r radd flaenaf; prosiectau arbennig a gwasanaethau ychwanegol; therapïau cyflenwol a chysur cleifion ychwanegol sydd i gyd yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gall cyllid y GIG ei ddarparu ar ei ben ei hun.
- £25 miliwn o welliannau
-
417
o gronfeydd -
Rhodd gyfartalog
£272
- Rhoddodd 4,626 o bobl arian
-
£1.7 m
mewn grantiau

Cadwch Curiadau
Ataliad y galon yw pan fo'r galon yn rhoi'r gorau i guro. Mae CPR a defnyddio diffibriliwr cyn i'r ambiwlans gyrraedd yn dyblu’r siawns o oroesi.
Mae bob eiliad yn cyfrif, os nad ydych yn gwneud unrhyw beth mae'r siawns o oroesi yn gostwng, 10% bob munud.
Darganfyddwch fwy