Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Cyfeillion Inffyrmari Dinbych yn ariannu cannoedd o filoedd i wella gwasanaethau

Mae Cyfeillion Inffyrmari Dinbych wedi ailagor y fynedfa ochr i’r ysbyty yn ddiweddar ar ôl gwario cannoedd o filoedd ar wella’r gwasanaeth.

Agorodd yr Arglwydd Barry Jones y fynedfa ochr i’r Inffyrmari yn swyddogol ddydd Gwener, 30 Mehefin ar ôl i’r gwaith gymryd dros 12 mis i’w gwblhau. Mae’r fynedfa ochr wedi ei gwella’n fawr diolch i’r Cyfeillion, ynghyd ag arwyddion gwell o gwmpas y fynedfa.

Dywedodd Gwynn Parry, Ymddiriedolwr Cyfeillion Inffyrmari Dinbych: “Mae’r Ymddiriedolwyr wrth eu boddau’n dweud bod y fynedfa ochr well ar agor bellach.

“Oherwydd oedi’n ymwneud â chontractau, dim ond yn ddiweddar y cwblhawyd y gwaith a hoffai’r Cyfeillion gyfleu eu hymddiheuriadau i’r cleifion, staff ac ymwelwyr am yr oedi hwn.”

Ynghyd â’r fynedfa ochr, mae’r Cyfeillion hefyd wedi rhoi arian tuag at ardaloedd eraill o’r Inffyrmari yn cynnwys ardal y Dderbynfa a Chlinig sydd wedi’u hadnewyddu yn ddiweddar, y gwnaethant gyfrannu £18,000 tuag atynt.

Ail-agorwyd bar te y Cyfeillion hefyd gan yr Arglwydd Barry Jones a bydd ar agor i staff, cleifion a’u teuluoedd yn cynnig lluniaeth iddynt tra byddant yn ymweld â’r Inffyrmari .

Mae’r tîm hefyd wedi cefnogi’r Inffyrmari drwy brynu Accuvein, cadair bariatrig, gwely plastro, DVDs i’r cleifion ar Ward Famau a chadair fflebotomi yn costio dros £10,000 i wella gofal a phrofiad cleifion yn y gwasanaeth.

Ni fyddai gwelliannau o’r fath yn bosibl heb gymorth y gymuned leol a chymynroddion.

Yn ddiweddar, mae’r Cyfeillion wedi codi swm anferth o £3,130.56 drwy arwerthiant o waith celf Kyffin Williams a fydd yn mynd tuag at welliannau i ardal yr ardd fel y gall cleifion dreulio amser y tu allan ym misoedd yr haf.

Os hoffech gyfrannu i Gyfeillion Inffyrmari Dinbych, gallwch wneud cyfraniad yn Nerbynfa’r Inffyrmari neu yn y bar te drwy arian parod neu siec.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here