Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Cadw mewn cysylltiad

Diolch i chi am ddewis cadw cysylltiad â’ch Elusen GIG, Awyr Las!

Sylwch y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw ar ein cronfa ddata ddiogel. Dim ond â’r rheiny sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu ar eich rhan y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth. Edrychwch ar eich Datganiad Preifatrwydd i gael mwy o wybodaeth.

Bydd eich cefnogaeth yn gloywi dyddiau cleifion, ac mewn llawer o achosion bydd yn trawsnewid bywydau cleifion. Yn achlysurol iawn fe hoffem gysylltu â chi i roi gwybod i chi sut y bydd eich cyfraniadau’n gwneud gwahaniaeth a rhannu gwybodaeth am yr elusen a digwyddiadau’r GIG a mentrau newydd i wirfoddoli a chodi arian. Chi sydd â rheolaeth a gallwch ddewis sut yr hoffech i ni gysylltu â chi: e-bost, testun a ffôn neu yn y post.

Cyflwynwch y canlynol fel bod gennym ni gofnod ddiweddar o’ch manylion ac felly gallwn gysylltu â chi yn y ffordd o’ch dewis chi. Sylwch ei bod yn ofynnol i chi gwblhau’r meysydd sydd wedi’u marcio â *.

Diolch i chi am gwblhau hwn a’n darparu â’r wybodaeth hon. Gan eich bod wedi ei wneud unwaith, ni ddylech fod angen ei wneud byth eto!

Fe anfonnir cyfathrebiadau’r elusen atoch chi gan Dîm Cefnogi Awyr Las.

Gallwch newid y ffordd y byddwn yn cysylltu â chi ar unrhyw adeg drwy gysylltu â Thîm Cefnogi Awyr Las - ebostiwch awyrlas@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01248 384395. Gallwch fod yn sicr hefyd y gwnawn ni ofalu am eich data a’i ddefnyddio a’r gofal mwyaf, ac ni wnawn fyth ei ffeirio na’i werthu.

Ewch i’n haddewid codi arian a’n datganiad preifatrwydd i gael mwy o wybodaeth.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here