Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Shillings for Sheets

Anfonwch gysur i gleifion sydd wir angen eich cefnogaeth eleni.

Yn lle anfon cardiau cyfarchion eleni, ystyriwch anfon rhodd i Apêl Cyswllt Iechyd Betsi Kenya "Shillings for Sheets".

Yn 2018, amcangyfrifodd y Post Brenhinol fod yr unigolyn cyffredin yn anfon 18 cerdyn Nadolig at deulu a ffrindiau. Gyda chostau postio, mae hynny'n costio oddeutu £40 - digon i brynu dillad gwely newydd ar gyfer pedwar gwely ysbyty yn Ysbyty Cyfeirio Sir Busia.

Dychmygwch faint y gallem ei godi (a faint o bapur y byddem yn ei arbed) pe byddem i gyd yn addo anfon e-gardiau nid yn unig ar gyfer y Nadolig, ond ar gyfer pob achlysur!

Mae gan welyau yn Ysbyty Cyfeirio Sir Busia fatresi gyda gorchudd plastig, a dim dillad gwely.

Gallai rhywbeth syml, beunyddiol fel hwn wella cysur i gleifion a helpu i leihau problemau gydag atal heintiau.

Ymunwch ag ymgyrch Nadolig Cyswllt Iechyd Betsi - Kenya a helpwch ni i godi £2,000 - digon o arian i brynu dillad gwely ar gyfer pob gwely yn Ysbyty Cyfeirio Sir Busia.

Cyfrannwch faint ydych chi yn ei wario ar gardiau fel arfer i brynu dillad gwely ar gyfer Ysbyty Cyfeirio Sir Busia a chael e-gardiau i'w rhannu gyda theulu a ffrindiau yn ei le.

Mae angen dillad gwely glân yn ein hysbytai rhyngwladol cysylltiedig, ynghyd ag offer newydd a gwell hyfforddiant. Bydd eich rhodd yn bendant yn cael ei chyfeirio i gefnogi Cyswllt Iechyd Betsi Kenya ond nodwch efallai na fydd eich rhodd yn cael ei defnyddio'n benodol i brynu dillad gwely.

Ffotograffiaeth gan Paul Joseph Brown | www.globalhealthphoto.com

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here