Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Amdanom Ni

Mae elusen GIG Gogledd Cymru, Allan Las, yn darparu gwasanaethau iechyd gwell yn ychwanegol at yr hyn y mae'r GIG yn ei ariannu. Mae cyfraniadau gan y cyhoedd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r gofal a'r driniaeth y gall ein staff ymroddedig y GIG eu darparu.

Awyr Las yw'r elusen ymbarel ar gyfer dros 400 o gronfeydd elusennol sydd gyda'i gilydd yn cefnogi pob ward, uned, adran, arbenigedd a phrosiect cymunedol ar draws ardal Gogledd Cymru sy'n cael eu wasanaethu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae gan y mwyafrif o wardiau ysbytai, adrannau a gwasanaethau gofal iechyd cymunedol gronfeydd penodol o fewn yr elusen, sy'n eich galluogi i gefnogi ardaloedd penodol y GIG sydd agosaf at eich calon.

Dewisir blaenoriaethau'r elusen gan staff nyrsio a meddygol rheng flaen.

Mae arian a roddir i'r elusen yn helpu staff ymroddedig y GIG mewn ysbytai a chymunedau ar draws Gogledd Cymru i gynnig gwasanaeth gofal iechyd gwell, gan gynnig y gofal a'r driniaeth orau sydd ar gael i gleifion a'u teuluoedd.

Diolch i'ch cefnogaeth chi, mae Awyr Las yn ariannu offer o'r radd flaenaf a chyfleusterau newydd; hyfforddiant staff ychwanegol ac ymchwil o'r radd flaenaf; prosiectau arbennig a gwasanaethau ychwanegol; therapïau cyflenwol a chysur cleifion ychwanegol sydd i gyd yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gall cyllid y GIG ei ddarparu ar ei ben ei hun.

Ers 2010 mae Awyr Las wedi ariannu gwelliannau o dros £25m i wasanaethau gofal iechyd ar draws y rhanbarth diolch i haelioni pobl leol, Sefydliadau cenedlaethol a chleifion diolchgar o bell ac agos.

Mae'r cymorth hwn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion a'u teuluoedd, oherwydd bod blaenoriaethau'r elusen yn cael eu pennu gan staff meddygol a nyrsio rheng flaen sy'n gwybod beth sydd ei angen ar gleifion i wneud eu profiadau yn yr ysbyty a'r gymuned yn llawer gwell. Gan nad yw'r elusen yn cymryd lle cyllid GIG statudol, bydd eich rhoddion gwirioneddol yn gwella'r gofal sydd ar gael i bobl leol mewn ffyrdd na fyddent yn bosibl fel arall.

CY_2020-21-Annual-Report.png#asset:8699

Dyma Gyfrifon ac Adroddiad Blynyddol yr elusen ar gyfer 2019/20.

Cliciwch i agor y ddogfen mewn tab newydd.

WELSH-FINAL_10-Years-of-Your-NHS-Charity.png#asset:8355

Dyma adroddiad effaith 10 mlynedd yr Elusen, a gyhoeddwyd yn 2021.

Cliciwch i agor y ddogfen mewn tab newydd.

Am ragor o wybodaeth am yr elusen, gweler cynllun strategol Awyr Las ar gyfer 2016-21. Lawrlwythwch y ddogfen trwy glicio yma.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here