Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

NFU Mutual yn cefnogi Ysbyty Gwynedd drwy’r 'Gronfa Rhoddion'

Mae cangen Llangefni o NFU Mutual wedi dewis Awyr Las: Elusen GIG Gogledd Cymru i fod yn rhan o’u ‘Cronfa Rhoddion’ flynyddol er mwyn codi arian ar gyfer Ward Alaw a Ward Dewi yn Ysbyty Gwynedd.

Mae ‘Cronfa Rhoddion’ yr NFU Mutual yn gyfrifol am ddosbarthu £1.92 miliwn i elusennau lleol ar draws y DU yn 2023 ac mae Awyr Las yn hynod o ffodus i dderbyn y rhodd hael iawn o £6,400 o’r gronfa hon!

Bydd y rhodd anhygoel yma o £6,400 yn cael ei rhannu rhwng Ward Alaw a Ward Dewi a bydd yn ei dro yn darparu nwyddau na all y GIG ei ariannu ar gyfer y ddwy ward.

Mae Ward Alaw, y ward ganser yn Ysbyty Gwynedd, yn codi arian tuag at gap oer newydd i gleifion canser sy'n mynd trwy driniaeth cemotherapi. Gall y cap oer fod yn help i gadw ffoliglau gwallt ac i atal gwallt rhag disgyn allan yn ystod triniaeth, mae'n rhywbeth sy'n cael ei gynnig i bob claf cemotherapi ar y ward ac mae wedi bod yn hynod lwyddiannus.

Mae gan Ward Dewi, Ward y Plant yn yr ysbyty, nifer o brosiectau ar y gweill ar hyn o bryd ond maent yn gobeithio diweddaru eu llety ar gyfer rhieni, Tŷ Enfys, a bydd y rhodd hon o gymorth mawr i wireddu hyn. Mae'r llety rhieni ar gyfer rhieni neu ofalwyr cleifion ifanc sydd yn yr ysbyty am arhosiad hir, er mwyn iddynt allu bod yn agos at eu teulu yn hytrach na’n gorfod teithio yn ôl ac ymlaen i'r ysbyty bob dydd, yn enwedig pan allai’r daith honno fod yn fwy nag awr o hyd.

Wrth sôn am y rhodd, dywedodd Kirsty Thomson, Pennaeth Codi Arian Awyr Las: “Rydym mor ddiolchgar i NFU Mutual am ddewis nid dim ond un, ond dwy ward yn Ysbyty Gwynedd i gyfrannu iddynt fel rhan o’u Cronfa Rhoddion.

“Rydym yn hynod ddiolchgar ein bod wedi derbyn rhodd mor hael ac mi fydd y rhodd yn cyfrannu at brosiectau ar Ward Alaw a Ward Dewi i’w helpu i ddarparu gwasanaeth sydd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ariannu.”

Os hoffech gefnogi Ward Alaw neu Ward Dewi yn Ysbyty Gwynedd, dilynwch y ddolen yma.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here