Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Addewid Codi Arian Awyr Las

Bydd eich cefnogaeth yn helpu i drawsnewid bywydau cleifion ledled Gogledd Cymru, a bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion, eu teuluoedd a thimau’r GIG sy’n gofalu amdanyn nhw.  Mae pawb sy’n ymwneud ag Awyr Las a phob un o’r rheiny sy’n cyflenwi’r gwasanaethau gofal iechyd rydych chi’n eu cefnogi, yn hynod ddiolchgar i chi am ddewis cefnogi’r elusen.

Mae aelodau Pwyllgor Elusen Awyr Las sy’n llywodraethu’r Elusen, Ymgynghorwyr y Gronfa sy’n arolygu cronfeydd ac aelodau Tîm Cymorth Awyr Las sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth i gefnogwyr yr elusen, i gyd yn addo bod yn onest ac yn agored ac i’ch trin â pharch.

Dyma ein haddewid codi arian i chi.

Rydyn ni’n addo:

Gallwch ddisgwyl:

  • Cefnogaeth gennym ni gyda’ch gweithgareddau codi arian
  • I ni fod yn ddiolchgar am eich cefnogaeth a pheidio â rhoi pwysau arnoch chi i godi arian neu i roi mwy nag y byddwn chi’n ei ddymuno
  • I reoli’r ffordd y byddwn yn cyfathrebu â chi, boed hynny drwy’r post, e-bost, ffôn neu SMS
  • I ymateb i unrhyw ymholiadau y byddwch yn eu hanfon atom ni drwy gyfryngau cymdeithasol, e-bost neu ar y ffôn o fewn 5 diwrnod gwaith

Fe wnawn ni ystyried unrhyw bryderon neu gwynion fydd gennych chi’n ddifrifol iawn. Os hoffech fynegi pryder neu gŵyn dylech:

  1. Gysylltu â Phennaeth Codi Arian Awyr Las drwy e-bostio awyrlas@wales.nhs.uk <mailto:awyrlas@wales.nhs.uk>,  ffonio 01248 384395, neu bostio at Awyr Las, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2PW. Dylech dderbyn ymateb cychwynnol o fewn 5 diwrnod gwaith o roi eich cwyn.

  2. Os byddwch yn anfodlon â’r ymateb cychwynnol neu’r ffordd y delir â’ch pryder neu eich cwyn, dylech gysylltu â Phennaeth Gwasanaethau Ariannol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy ddefnyddio’r un manylion cyswllt â’r uchod.  Dylech dderbyn ymateb cychwynnol o fewn 5 diwrnod gwaith i roi eich cwyn.

  3. Os dymunwch fynd â’ch cwyn ymhellach oherwydd eich bod yn dal i fod yn anfodlon a’r ymateb gan y Pennaeth Codi Arian a Phennaeth y Gwasanaethau Ariannol, dylech gysylltu â Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.  Dylech dderbyn ymateb cychwynol o fewn 4 diwrnod gwaith o roi eich cwyn.

  4. Os hoffech i gorff annibynnol ymchwilio eich pryderon, mae’n rhaid i chi yn gyntaf fod wedi rhoi’r cyfle i ni ddatrys eich pryderon neu eich cwyn drwy ein proses fewnol ein hunain.  Yna gallwch gysylltu â’r Rheolydd Codi Arian.  Mae ei fanylion cyswllt i’w cael ar: https://www.fundraisingregulat....  

Diolch i chi unwaith eto am gefnogi Awyr Las, a helpu i wneud gwahaniaeth i gleifion yng Ngogledd Cymru.  Rydyn ni’n addo rhoi’r profiad gorau a allwn ni i chi pryd bynnag y byddwch yn dewis cefnogi eich Elusen GIG.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here