Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Tybed a yw CPR yn gweithio mewn gwirionedd? Cyfarfod â'n Goroeswyr!

Straeon rhai sydd wedi goroesi

Tybed a yw CPR yn gweithio mewn gwirionedd? Cyfarfod â'n Goroeswyr!

Cardiac arrest survivor Kayleigh
Parhaodd fy ngŵr â CPR am 23 munud cyn i'r ambiwlans gyrraedd

Helo! Fy enw i yw Kayleigh. Yn 31 oed, profais ataliad ar y galon tra roeddwn gartref.

Yn ffodus i mi, roedd fy ngŵr Ben wedi bod ar gwrs CPR ychydig wythnosau ynghynt, a dechreuodd CPR yn ddi-oed.

Parhaodd Ben â CPR am 23 munud cyn i'r ambiwlans gyrraedd - arbedodd fy mywyd.

Cardiac arrest survivor Paul
Doedd gen i ddim syniad fy mod i wedi cael fy ngeni â chyflwr prin ar y galon

Paul ydw i, ac roeddwn i'n 34 oed pan gefais fy ataliad ar y galon.

Roeddwn i newydd orffen dysgu gwers gitâr pan stopiodd fy nghalon guro a chwympais i'r llawr.

Yn ffodus cefais fy ngweld gan yr aelodau staff Janet ac Andrew. Dechreuon nhw CPR ac fe wnaethant ddefnyddio diffibriliwr yr ysgol i ddod â mi yn ôl yn fyw.

Doedd gen i ddim symptomau blaenorol ac nid oedd gen i unrhyw syniad fy mod i wedi cael fy ngeni â chyflwr prin ar y galon.

Cardiac arrest survivor Joanne
Fe arbedodd fy merch 12 oed fy mywyd trwy barhau â CPR

Fy enw i yw Joanne, ac yn 48 oed cwympais yn fy ystafell wely gartref, gan daro fy mhen wrth i mi gwympo.

Clywodd fy merch Melissa, a oedd yn 12 ar y pryd, y glec a rhuthrodd i mewn i'r ystafell wely. Daeth o hyd i mi wedi cwympo ac yn anymwybodol ar y llawr. Deialodd Taz, brawd Melissa (16 oed) 999.

Sylweddolodd gweithredwr yr ambiwlans yn gyflym iawn fy mod wedi profi ataliad ar y galon. Nid oedd fy nghalon yn curo mwyach. Helpodd gweithredwr yr ambiwlans Taz i gyhoeddi cyfarwyddiadau CPR i Melissa.

Fe arbedodd Melissa, fy merch 12 oed, fy mywyd trwy barhau â CPR nes i'r ambiwlans gyrraedd.

Wedi cael eich ysbrydoli?

Tecstiwch KTB i 70500 i roi £5 yn awr a bydd 100% o'ch rhodd yn mynd tuag at helpu mwy o bobl i ddysgu CPR yng Ngogledd Cymru. Gyda'n gilydd gallwn gadw calonnau i guro. Diolch!

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here