Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Mae Cadwch Curiadau yn gronfa benodol o fewn Awyr Las, elusen GIG Gogledd Cymru, sy'n darparu gwasanaethau ychwanegol sy'n mynd y tu hwnt i beth mae'r GIG yn ei ariannu o fewn BIPBC.

Ynglŷn â Cadwch Curiadau

Mae'n cael ei redeg gan staff y rheng flaen a chleifion cardiaidd, sy'n deall yn well nag unrhyw un, ble gall gwario ychydig o arian ychwanegol ar wasanaeth, wneud gwahaniaeth mawr.

Ataliad y galon yw pan fo'r galon yn rhoi'r gorau i guro.

  • Mae CPR a defnyddio diffibriliwr cyn i'r ambiwlans gyrraedd yn dyblu’r siawns o oroesi
  • Mae data cynnar yn awgrymu nad yw 75% o unigolion yn BIPBC sydd wedi cael ataliad y galon yn cael CPR cyn i gymorth meddygol gyrraedd
  • Yng Nghymru, dywedwyd bod cyfraddau goroesi wedi bod mor isel â 3%
  • Mae hynny o'i gymharu â gwledydd eraill sydd â chyfraddau goroesi mor uchel â 25%

Mae "Cadwch Curiadau" eisiau pawb yng Ngogledd Cymru ddeall sut i berfformio CPR sylfaenol, a gweithredu diffibriliwr, gan mai dyma'r unig ffordd i ailsefydlu curiad calon naturiol y galon, a helpu i achub bywydau.

Mae bob eiliad yn cyfrif, os nad ydych yn gwneud rhywbeth mae'r siawns o oroesi yn gostwng 10% bob munud. Mae "Cadwch Curiadau" yn cefnogi ei gymuned Gogledd Cymru gyda hyfforddiant diffibriliwr a CPR, ac yn gofyn i unigolion fel chi, fod yn ymwybodol o ble mae eu diffibriliwr cymuned agosach, a byddwch yn barod i "roi CPR a cheisio peidio â cherdded heibio".

Rydym yn sefydlu cenedl o unigolion sy'n achub bywydau, a gwella tair dolen gyntaf y gadwyn oroesi, gan gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru, Achub Bywyd Cymru: http://www.savealifecymru.wales

Cofiwch!

Pan rydych yn dod o hyd i rywun sydd wedi ymgwympo, os yw'n ddiogel;

  • Gwiriwch ei ymateb drwy ysgwyd ei ysgwyddau yn ysgafn, a gofyn a ydynt yn iawn
  • Gwyrwch y pen yn ôl yn ysgafn, a gwirio a ydynt yn anadlu
  • Ffoniwch 999, a gofynnwch am ambiwlans
  • Os nad yw'n anadlu, dechreuwch gywasgu'r frest, gwthiwch yn galed ac yn gyflym yng nghanol y frest, a pharhau nes i'r ambiwlans gyrraedd
  • Pan rydych yn ffonio 999, bydd gweinyddwr yr ambiwlans yn dweud wrthych ble mae eich diffibriliwr agosaf, ac os oes angen byddent yn dweud wrthych beth yw'r cod allwedd, i'w agor
  • Peidiwch byth â rhoi'r gorau i CPR, gyrrwch rywun arall i nôl y diffibriliwr
  • Mae diffibrilwyr yn ddyfeisiau rhannol-awtomatig sy'n helpu rhywun mewn ataliad cardiaidd.
  • Ewch i nôl yr un agosaf, a mynd ag o at y claf
  • Bydd y diffibriliwr yn siarad â chi drwy roi cyfarwyddiadau cam wrth gam
  • Nid yw diffibrilwyr cymuned angen unrhyw hyfforddiant, a byddent yn helpu llawer mewn sefyllfa o ataliad y galon
  • Byddwch angen parhau i wneud CPR hyd yn oed os cafodd y diffibriliwr ei ddefnyddio - dilynwch y cyfarwyddiadau y mae'r peiriant yn eu darparu
  • A pheidiwch ag anghofio, pan fo'r galon yn rhoi'r gorau i guro mae bob eiliad yn cyfrif
Yn y math hwn o sefyllfa mae UNRHYW CPR YN WELL NA DIM CPR

Cyfrannu i Cadwch Curiadau

Tecstiwch KTB i 70500 i roi £5 yn awr - bydd 100% o'ch rhodd yn mynd tuag at brosiectau CPR a Diffibriliwr Mynediad Cyhoeddus yng Ngogledd Cymru. Diolch!

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here