Rhowch y rhodd o fywyd - prynwch diffibriliwr ar gyfer eich cymuned!
Cofrestrwch eich Diffibriliwr
Os ydych chi'n ystyried prynu diffibriliwr newydd i'ch cymuned, cysylltwch â Tomos, Swyddog Cefnogi Diffibriliwr Gogledd Cymru, i gael cyngor a chefnogaeth.
Gallwch gysylltu â Tomos trwy ebost neu ffôn:
tomos.hughes@wales.nhs.uk
07976766872
Pan fydd gennych eich diffibriliwr, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei gofrestru gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Mae cofrestru eich diffibriliwr gyda'r gwasanaeth ambiwlans yn golygu pan fydd rhywun yn deialu 999 bydd gweithredwr yr ambiwlans yn gallu cyfeirio'r person at eich diffibriliwr pe bai ei angen mewn argyfwng.
Cofrestrwch eich diffibriliwr heddiw, yn ddi-oed!
Oeddech chi'n gwybod?
Hysbysir Tomos pan ddefnyddir un o'r 985 diffibriliwr yng Ngogledd Cymru. Ei waith wedyn yw mynd allan ar draws y rhanbarth i wirio bod yr offer yn barod i'w ddefnyddio eto.
Rhaid iddo hefyd sicrhau bod pob safle diffibriliwr cymunedol wedi'i gofrestru gyda'r gwasanaeth ambiwlans gan sicrhau bod eu lleoliadau'n hysbys a'u bod yn hygyrch mewn argyfwng.
Ydych chi eisiau prynu diffibriliwr i'ch cymuned?
Angen help i godi arian?
Cysylltwch â'r Tîm Cymorth Awyr Las heddiw i gael cefnogaeth!
awyrlas@wales.nhs.uk
01248 384395
Rhoi i Cadwch Curiadau
Tecstiwch KTB i 70500 i roi £5 yn awr - bydd 100% o'ch rhodd yn mynd tuag at brosiectau CPR a Diffibriliwr Mynediad Cyhoeddus yng Ngogledd Cymru. Diolch!