Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Cadwch Curiadau

Ataliad y galon yw pan fo'r galon yn rhoi'r gorau i guro. Mae CPR a defnyddio diffibriliwr cyn i'r ambiwlans gyrraedd yn dyblu’r siawns o oroesi.

Mae bob eiliad yn cyfrif, os nad ydych yn gwneud unrhyw beth mae'r siawns o oroesi yn gostwng, 10% bob munud.

Rydym yn aros am gyfieithiadau ar gyfer y cynnwys hwn

Mae Adroddiad Prosiect Ataliad y Galon y Tu Allan i Ysbyty Cymuned Gogledd Cymru (OOHCA) (2018 i 2021) bellach ar gael!

PWYSIG: Y canllawiau diweddaraf ar gyfer rhoi CPR yn ystod COVID-19

Rydym eisiau mwy o unigolion fel chi fod yn ymwybodol o'ch diffibriliwr cymuned agosaf, a bod yn barod i "roi CPR a cheisio peidio â cherdded heibio", rydym angen cenedl o unigolion sy'n achub bywydau, pan fo'r galon yn rhoi'r gorau i guro mae bob eiliad yn cyfrif, yn y math hwn o sefyllfa mae unrhyw CPR yn well na dim CPR.

Mae Cadwch Curiadau ar gyfryngau cymdeithasol - cysylltwch â ni ar Facebook a Twitter!

Pam ddylwn i ddysgu CPR?
Oherwydd bod CPR yn achub bywydau!

Felly beth sy'n eich atal rhag gwneud CPR?

  • Efallai y byddaf yn dal rhywbeth wrth adfywio ceg wrth geg
    Yna gwnewch CPR gyda'r dwylo yn unig, mae'n iawn peidio ag adfywio ceg wrth geg.
  • Efallai na fyddwn yn ei wneud yn gywir, efallai y byddwn yn ei wneud yn anghywir
    Grwanda - mae UNRHYW CPR yn well na DIM CPR!
  • Rwy'n poeni y byddaf yn brifo'r unigolyn, yn torri asen neu rywbeth!
    Pan fo rhywun yn cael ataliad y galon maent wedi marw! Ni allwch wneud y sefyllfa yn waeth. Er hynny, byddwch yn rhoi cyfle iddynt oroesi.
Ond a yw CPR yn gweithio mewn gwirionedd?
YDY!

Rhannwch y fideo hwn, a rhannu'r neges ein bod ni gyd angen dysgu sut i wneud CPR.

Dim amser i fynychu cwrs i ddysgu CPR, neu ddim eisiau? yna gwyliwch ein fideos a pharatowch eich hun ar gyfer y diwrnod y bydd angen eich sgiliau CPR, er mwyn achub bywyd cymydog neu rywun sy'n annwyl i chi. Cliciwch yma i ddysgu CPR yn awr!

Os ydych angen cyngor am ddiffibrilwyr cymuned cysylltwch â Tomos Hughes, ein Swyddog Cefnogi Diffibrilwr Gogledd Cymru drwy e-bost neu ffôn: tomos.hughes@wales.nhs.uk neu 07976766872.

Cliciwch isod i gwrdd â Tomos, eich Swyddog Cefnogi Diffibriliwr!

Cwrdd â Tomos



Ydych chi'n barod i helpu gyda'r Helfa Drysor Cadwch Curiadau?

Rydym yn chwilio am ddod o hyd i defibs ledled Gogledd Cymru. Byddem wrth ein bodd pe baech yn cymryd rhan! Arr!

Helpa ni i ddod o hyd i'r trysorau achub bywyd hyn!

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here