Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Lansio uned symudol i hybu addysg am iechyd y galon yng nghefn gwlad Gogledd Cymru

Ddydd Sadwrn (17 Gorffennaf), bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn lansio Uned Gardioleg Symudol newydd yn Llyn Brenig.

Dyma'r uned gyntaf o'i bath yng Nghymru, a bydd y trelar newydd yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo addysg am iechyd y galon mewn ardaloedd gwledig ac i roi hyfforddiant CPR mewn lleoliadau cymunedol, fel canolfannau siopa, cyrchfannau ymwelwyr ac ysgolion.

Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio er mwyn cynnal archwiliadau fel profion electrocardiogram (ECG), sy'n cael eu defnyddio er mwyn profi rhythm y galon i helpu gyda diagnosio curiad afreolaidd ac atal strôc a chymhlethdodau eraill.

Mae'r trelar wedi cael ei ariannu trwy 'Cadwch Curiadau/Keep the Beats', cronfa o fewn Awyr Las, Elusen GIG Gogledd Cymru, er mwyn delifro deffibrilwyr, hyfforddiant ac addysg mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru.

Mae'n rhan o brosiect ehangach rhwng y Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a'r elusen gardiaidd SADS UK. Mae'r bartneriaeth wedi sicrhau bod mwy na 500 o ddiffibrilwyr cymunedol, sy'n cael eu cynnal a chadw'n gyson, wedi eu gosod yn y rhanbarth ers 2018.

Meddai Julie Starling, Uwch Nyrs Glinigol Arbenigol Arrhythmia BIPBC a Rheolwr y Prosiect: "Mae ataliad y galon yn gyflwr lle mae'r galon yn stopio curo yn sydyn ac annisgwyl oherwydd nam gyda system drydanol y galon. Gall ddigwydd i unrhyw un, o unrhyw oed, ar unrhyw adeg, ac yn unrhyw le.

"Rydym yn gwybod mai CPR a'r defnydd o ddeffibriliwyr yw'r cyfuniad gorau i achub bywyd yn y sefyllfa hon. Gall CPR cyn i'r ambiwlans gyrraedd fwy na dyblu'r siawns o oroesi ac mae defnyddio deffibriliwr o fewn 3-5 munud yn gallu golygu cyfradd oroesi o hyd at 70%."

Ychwanegodd Tomos Hughes, Swyddog Deffibrilwyr Mynediad Cymunedol (PADS) Gogledd Cymru: "Y fantais fawr o gael y trelar hwn ydi y gallwn gyrraedd pobl mewn cymunedau gwledig, a delifro mwy o hyfforddiant ar sut i wneud CPR a defnyddio deffibrilwyr. Gwyddom fod hynny'n helpu i achub bywydau.

"Mae'r uned yn cynnwys yr holl offer angenrheidiol ac fe allwn fynd â hi i unrhyw le o fewn rheswm. Bydd yn ein galluogi i gynnal sioeau teithiol ar draws y rhanbarth fel y gall pobl alw heibio i gael sgwrs gyda ni, gofyn cwestiynau a dysgu mwy am iechyd y galon, a chael eu sgrinio am gyflyrrau sy'n aml iawn yn mynd heb gael eu hadnabod. "

Hoffech chi gefnogi Cadwch Curiadau?

Tecstiwch KTB i 70500 i roi £5 nawr - Diolch!

Mae cyllid ar gyfer pum deffibriliwr cymunedol o amgylch Llyn Brenig a Llyn Alwen hefyd wedi'i gyhoeddi cyn lansiad y trelar, gyda chefnogaeth gan Fferm Wynt Clocaenog.

Meddai Julie: "Mae tri achos o ataliad y galon wedi bod yn y gyrchfan boblogaidd hon yn y 12 mis diwethaf yn unig, felly rydym yn falch iawn o fedru gosod deffibrilwyr yma yn y dyfodol agos.

"Misoedd yr haf yw'r amser prysuraf mewn llefydd fel Llyn Brenig, sy'n amlwg yn golygu bod tebygrwydd o fwy o achosion ac, yn anffodus, marwolaethau. Felly'n syml iawn, y mwyaf o ddeffibrilwyr y gallwn eu gosod mewn cymunedau a'r mwyaf o bobl y gallwn eu hyfforddi i'w defnyddio a gwneud CPR, y mwyaf o fywydau y gallwn eu hachub."

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here