Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Dros y 14 mlynedd diwethaf mae Malcolm Pitts wedi codi miloedd o bunnoedd i Ysbyty Gwynedd

Cafodd ei ysbrydoli i ymgymryd â’r heriau corfforol gan ei ddiweddar wraig, Yvonne, a fu farw 14 mlynedd yn ôl. Fel arfer mae Malcolm yn ymgymryd a her nofio bob mis Mai, cyn troi wedyn at her 80 milltir ar gefn beic. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig yn 2020, chafodd Malcolm ddim mo’r cyfle i fwrw ati gyda’i weithgareddau codi arian blynyddol.

Ar ôl i’r trydydd cyfnod clo gael ei ei godi yng ngwanwyn 2021, dechreuodd Malcolm hyfforddi ar gyfer her feic enfawr, sef seiclo 600 milltir yn ystod mis Ebrill, gyda'r mwyafrif o’r teithiau’n cael cynnal yn ei ardal leol. Cwblhaodd ei 13eg her yn llwyddiannus a chododd £1,200 ar gyfer tair uned yn Ysbyty Gwynedd. Aeth hanner yr arian a godwyd i Uned Ganser Dydd Alaw, a fu'n gofalu am ac a helpodd Yvonne i ymestyn ei bywyd am sawl blwyddyn. Rhannwyd y 50% arall rhwng ward Conwy a'r adran Ddamweiniau ac Achosion brys.

“Ein blaenoriaeth bob tro ydy Uned Canser Dydd Alaw” meddai Malcolm, “er mwyn codi ymwybyddiaeth am y meddygon a’r nyrsys gwych sydd yno, ac i ddiolch iddyn nhw am yr holl waith caled maen nhw’n ei wneud yn ystod yr amseroedd caled hyn.”

Diolchwn i Malcolm am godi swm hael unwaith eto i Ysbyty Gwynedd, ac am barhau yn ei ymdrechion i gefnogi'r unedau hyn er cof am ei wraig.

Cefnogwch her Malcolm



Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here