Meddyg o Wrecsam yn paratoi i seiclo 400 milltir i godi arian
Mae pediatregwr ymgynghorol yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi bod yn paratoi i seiclo 400 milltir er mwyn codi arian at ymchwil iechyd plant yng Ngogledd Cymru.
Ddydd Sul, 20 Mehefin, bydd Dr Artur Abelian yn cychwyn ar gam cyntaf ei daith, gan adael ei gartref yn Wrecsam gyda'r wawr i seiclo am oddeutu 15 awr i Gaergrawnt. Bydd yn dychwelyd i Ogledd Cymru y penwythnos canlynol gan gwblhau'r daith 400 milltir.
Mae Dr Abelian yn codi arian tuag at Gronfa Iechyd Plant Gogledd Cymru Awyr Las, sy'n cael ei sefydlu ar y cyd â chydweithwyr yn Ysbyty Glan Clwyd.
Eglurodd pam fod hwn yn achos sydd mor agos at ei galon: "Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn rhan o brosiect ymchwil arloesol gyda'r Labordy Bioleg Molecwlaidd MRC byd-enwog yng Nghaergrawnt i wella diagnosis llid yr ymennydd mewn babanod newydd-anedig. Cafodd yr ymchwil hwn ei ariannu'n rhannol trwy Awyr Las, Elusen GIG Gogledd Cymru.
Roeddwn i'n awyddus i wneud rhywbeth i gydnabod y gefnogaeth yma, ac i godi arian at Gronfa newydd Awyr Las a fydd yn cefnogi rhagor o ymchwil iechyd plant pwysig yma yng Ngogledd Cymru.
"Byddaf hefyd yn seiclo er cof am Dr Paul Dear, a oedd yn ffrind ac yn ffigwr allweddol o ran sefydlu'r rhaglen ymchwil llid yr ymennydd. Yn drist iawn, bu farw Paul y llynedd cyn y gallai gwblhau'r ymchwil."
Ychwanegodd: "Mae llawer o'r ymchwil iechyd plant a wneir yng Nghymru yn cael ei gynnal yn y De, ond mae cyfle gwirioneddol i wneud mwy o waith ymchwil a datblygu sy'n canolbwyntio'n benodol ar y Gogledd.
"Trwy ddeall mwy am afiechydon sy'n effeithio ar fabanod a phlant yma, gallwn sicrhau, yn y pen draw, well diagnosis a thriniaeth. Daw hyn â manteision amlwg i blant a'u teuluoedd ar draws y rhanbarth."
Mae Dr Abelian yn agos iawn at gyrraedd ei darged o £4,000, ac mae'n gobeithio y bydd ei ymgyrch ef yn arwain at fwy o godi arian:
"Rwyf wedi bod yn gweithio yn Ysbyty Maelor ers ymhell dros 10 mlynedd. Mae wedi dod yn amlwg i mi bod cefnogaeth y cyhoedd yn hollbwysig er mwyn gwella allbynnau iechyd ac rwy'n hynod falch o'r cysylltiad cryf sydd gan gymunedau yng Ngogledd Cymru gyda'r GIG.
Rwy'n arbennig iawn o ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yma - o fy nghymdogion i wyddonydd sydd wedi ennill y Wobr Nobel - a hefyd i Awyr Las, Elusen GIG Gogledd Cymru am gefnogi ein Cronfa Ymchwil Iechyd Plant. Mae'n gyffrous iawn meddwl y gallwn, gyda mwy o godi arian a chefnogaeth, ddelifro rhagor o raglenni arloesol i helpu cleifion yma yng Ngogledd Cymru.
Gan edrych ymlaen at gychwyn yr her, meddai: "Rwyf wedi bod yn seiclo llawer ers cychwyn y pandemig ac wedi treulio cannoedd o oriau yn hyfforddi, felly rwy'n hyderus fy mod mor ffit ag y gallwn fod.
"Wedi dweud hynny, mae seiclo o Wrecsam i Gaergrawnt ac yn ôl yn sicr o fy ngwthio'n gorfforol ac yn feddyliol. Ond mae'n her yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr at ei chyflawni!"
I wneud cyfraniad, ewch i dudalen JustGiving Dr Abelian, lle gallwch hefyd ei ddilyn ar hyd y daith: www.justgiving.com/fundraising/Child-Health-Research-NorthWales