Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Un diwrnod roedd Llŷr Rees yn rhedeg 10 milltir ac yn paratoi i gystadlu mewn cystadlaethau triathlon - y diwrnod canlynol roedd yn brwydro am ei fywyd.

Roedd Pennaeth Ysgol Gynradd Bontnewydd, ger Caernarfon, Llŷr yn ddyn 50 oed heini ac iach pan rwygodd ei aorta naw mis yn unig yn ôl.

Peryglodd yr aneurysm a'r rhwyg aortig dilynol ei fywyd, gyda meddygon yn ofni na fyddai hyd yn oed yn goroesi taith yr ambiwlans o Ysbyty Gwynedd, Bangor, i Ysbyty Broadgreen Lerpwl, ar ôl cael ei ruthro yno o'i gartref yn Ynys Môn.

Ei ferch bedair oed, Catrin, a ddaeth o hyd iddo yn gafael yn ei galon ar lawr yr ystafell fyw cyn rhoi gwybod i’w mam, a alwodd am barafeddygon.

Pe na baent wedi bod adref, ni fyddai Llŷr wedi goroesi.

Nawr mae'n annog pobl i gefnogi ymgyrch Elusen GIG Gogledd Cymru Awyr Las (Blue Sky) a digwyddiad Te Mawr y GIG sydd yn dechrau heddiw (dydd Llun) - 73ain pen-blwydd y GIG- ac sy’n para trwy gydol mis Gorffennaf.

Mae Llŷr hefyd yn cefnogi'r ymgyrch gasglu arian tuag at gerbyd sganio chwyldroadol cardiaidd a fydd yn caniatáu i glinigwyr i wneud diagnosis a pherfformio asesiadau ar gleifion fel fo o bell mewn cymunedau gwledig.

“Nid oes amheuaeth y byddai’r cerbyd hwn yn darparu gwasanaeth hanfodol oherwydd mae cymaint o bobl allan yna fel fi nad oes ganddynt unrhyw syniad bod ganddyn nhw broblem galon sylfaenol neu heb ei darganfod.”
Llŷr Rees

“Nid oedd unrhyw arwyddion rhybuddio, fe ddaeth allan o nunlle; Fe deimlais rywbeth yn rhoi yn fy mrest ac yna collais ymwybyddiaeth am sawl munud.

“Y diwrnod cynt, roeddwn i wedi rhedeg10 milltir - roeddwn i’n arfer rhedeg 25 milltir yr wythnos - ac yna allan o nunlle roeddwn i yn yr ysbyty. Yn ffit ac yn iach un munud ac ar amrantiad roedd yn edrych fel fy mod i'n mynd i farw.

"Mae'n gyflwr difrifol, a dywedodd un meddyg wrthyf ar ôl llawdriniaeth fod yr arwydd cyntaf fel arfer yn cael ei ganfod pan fydd awtopsi yn cael ei gynnal - mae hynny’n ddychrynllyd ac yn neges mor gref imi pa mor agos oeddwn i at farw."

Ar ôl 10 diwrnod yn Broadgreen, dychwelodd Llŷr adref a dechrau cyfnod araf a chyson o adsefydlu.

Bydd yn rhaid iddo gael asesiadau bob dwy flynedd ac mae'n dychwelyd i ymarfer corff ysgafn ond mae'n cyfaddef y bydd y creithio meddyliol yn cymryd mwy o amser i wella.

“Rwy’n dal yn nerfus ynglŷn â gwneud gormod, sy’n naturiol, ond bob dydd rwy’n teimlo’n gryfach.”
Llŷr Rees

“Casglodd y plant a’r rhieni anhygoel yn yr ysgol arian imi gael rhywbeth neis i mi fy hun, felly prynais feic i helpu gyda fy adferiad; mae'n rhoi hwb i mi a'r ysfa i wella a chyrraedd yn ôl i ble roedd fy ffitrwydd i cyn hyn i gyd.

“Ac mae pob un ohonom yn cefnogi digwyddiad Te Mawr y GIG ar yr un diwrnod â’n diwrnod chwaraeon yn yr ysgol, ar ôl derbyn rhodd hael o 100 o gacennau gan ein harchfarchnad Morrisons leol. Rwy'n gobeithio’n fawr y bydd eraill yn dathlu gyda ni.”

Ychwanegodd: “Roedd staff y GIG a helpodd fi yn hollol anhygoel, ac oni bai am eu hymyrraeth ni fyddwn i yma heddiw.

“Rydyn ni'n siarad am y GIG fel arwyr ond nid yw hynny'n gwneud cyfiawnder â nhw, maen nhw’n fwy na hynny, a mawr fydd fy nyled a diolch iddyn nhw am byth.”

Tecstiwch Awyr Las CDV i 70500 i roi £5 nawr tuag at y Cerbyd Diagnostig Cardiaidd!

Diolch.

Bydd y cerbyd diagnostig cardiaidd wedi'i adeiladu'n bwrpasol i gynnwys uned feddygol o bell gyda sganiwr cludadwy, desg gyfrifiadurol, cyfleusterau sinc a glanhau a gwely addasadwy trydan.

Dywedodd Cath More, Rheolwr Cymorth Awyr Las: “Mae adferiad Llŷr o gyflwr mor drawmatig yn ysbrydoledig ac rydym mor ddiolchgar am ei gefnogaeth ef, a chefnogaeth rhieni, plant a staff Ysgol Gynradd Bontnewydd.

“Dwi’n siŵr fod bod mor heini ac iach un munud ac yna cael profiad mor drawmatig wedi bod yn ysgytwol ac mae’n atgyfnerthu ein hymgyrch i gael y cerbyd diagnostig cardiaidd. Mae hi mor bwysig cael archwiliad os ydych chi'n profi unrhyw symptomau o gwbl, a bod yn ymwybodol o'r arwyddion. "

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Awyr Las wedi derbyn mwy na £25m mewn rhoddion. Mae'r gefnogaeth honno wedi helpu i dalu am offer o'r radd flaenaf a chyfleusterau newydd, hyfforddiant staff, ymchwil blaengar, prosiectau arbennig, gwasanaethau ychwanegol, a chysuron ychwanegol i gleifion sy'n fwy na’r hyn y gall cyllid y GIG ei ddarparu.

Mae'r elusen wedi bod yn annog y cyhoedd i ymuno â Digwyddiad Te Mawr y GIG ym mis Gorffennaf a bod yn rhan o ddiolchgarwch cenedlaethol trwy godi arian i'r staff anhygoel sydd wedi bod yno i'r genedl dros y flwyddyn ddiwethaf.

I godi arian ar gyfer y Cerbyd Diagnostig Cardiaidd ac i gael gwybodaeth am ddigwyddiad Te Mawr y GIG, ewch i'r wefan: www.awyrlas.org.uk/cy/big-tea

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here