Llawfeddyg o Gymru yr achubodd ei ferch ei fywyd ar ôl ataliad y galon yn serennu ochr yn ochr ag wynebau enwog yn arddangosfa newydd Rankin sy’n dathlu 75 mlynedd o elusennau’r GIG
Mae Llawfeddyg Orthopedig o Gymru, y cafodd ei fywyd ei achub gan ei ferch ei hun ar ôl ataliad y galon, yn cael ei gynnwys ochr yn ochr â seren Monty Python, Michael Palin, a phêl-droediwr Lloegr, Jordan Henderson, mewn arddangosfa newydd gan Rankin a NHS Charities Together, gan ddathlu 75 mlynedd o elusennau’r GIG.
Mae Raghunandan (Nandan) Kanvinde, 65, yn un o 14 o staff, cleifion a gwirfoddolwyr y GIG sy’n serennu yn ‘Love and Charity: A History of Giving in the NHS’ – sy’n dathlu’r rôl allweddol y mae elusennau wedi’i chwarae drwy gydol hanes y gwasanaeth iechyd, cyn pen-blwydd y GIG yn 75 ar 5 Gorffennaf. Wedi’i arwain gan NHS Charities Together, yr elusen genedlaethol sy’n gofalu am y GIG, a’r ffotograffydd rhyngwladol enwog, Rankin, bydd yr holl bortreadau yn cael eu harddangos yn oriel Saatchi yn Llundain o 31 Mai i 11 Mehefin.
Mae Nandan wedi profi’r GIG o’r ddwy ochr, fel gweithiwr gydol oes ac fel claf, ar ôl i’w ferch ei hun achub ei fywyd ar ôl ataliad y galon yn y gampfa. Mae ei ferch, sydd hefyd yn feddyg, wedi’i hyfforddi mewn adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR), a oedd yn golygu ei fod yn gallu cael ei achub gyda chywasgiadau’r frest i helpu cadw’r gwaed i lifo drwy’r corff, cyn cael ei gludo i’r ysbyty a gwneud adferiad llawn.
Dywedodd Nandan: “Rwyf wedi gweithio i’r GIG am dros 35 mlynedd ac wedi gweithio’n bersonol ar lawer o achosion lle mae ymyrraeth feddygol yn achub bywyd. Ond roedd yr esgid ar y droed arall y tro hwn ac roedd yn rhaid i mi gael fy nadebru. Diolch byth, roedd fy merch yn gwybod sut i roi CPR ond gallai fod wedi mynd y ffordd arall.
“Mae’r profiad wedi newid fy mhersbectif ar fywyd yn gyfan gwbl ac rwyf wirioneddol yn credu y dylai pawb wybod sut i wneud CPR, oherwydd nad ydych chi byth yn gwybod pryd y byddwch chi angen ei wneud, nac ar gyfer pwy. Os yw’n cael ei wneud yn gywir ac yn ddigon cynnar, mae adferiad llawn, fel yn fy achos i, yn bosib iawn - a dyna pam yr ydym ni mor ffodus bod elusennau'r GIG yn dysgu'r sgiliau hyn yn ein cymunedau."
Ers y profiad bythgofiadwy hwn, mae Nandan wedi dod yn eiriolwr cryf ar gyfer hyfforddiant CPR cymunedol a ariennir gan Awyr Las, elusen Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn ddiweddar, mae'r elusen, trwy Gronfa 'Keep the Beats' wedi ariannu dros 40 o Ddiffibrilwyr Mynediad Cyhoeddus Cymunedol (CPADs), dyfeisiau sy'n gallu rhoi sioc drydanol i glaf sy’n profi ataliad y galon, ac mae cyllid hefyd yn mynd tuag at gynnal yr offer hanfodol hwn. Mae’r elusen hefyd wedi ariannu Swyddog PADS yn ogystal â hyfforddiant i addysgu’r gymuned ar sut i ddefnyddio CPADs a sut i wneud CPR sy’n achub bywydau pan fo pob eiliad yn cyfrif.
Mae dros 230 o elusennau GIG yn y DU, a gyda’i gilydd, maent yn helpu ein gwasanaeth iechyd i fynd ymhellach nag a fyddai'n bosibl gyda chyllid y llywodraeth yn unig. Maent yn ariannu ymchwil arloesol yn ogystal â thechnolegau, llety a chymorth newydd arloesol er mwyn gwneud i’r ysbyty deimlo’n llai fel ysbyty, yn ogystal ag ariannu gwasanaethau ychwanegol fel y gall mwy ohonom ni gael mynediad at well gofal.
Mae Rankin, sydd wedi tynnu lluniau enwogion megis Queen, David Bowie, Madonna a Kate Moss, yn ychwanegu: “Yr hyn yr wyf wedi’i ddysgu gan yr holl bobl hyn yw faint o gyfraniad y mae elusennau’r GIG yn eu gwneud tuag at y gwasanaeth iechyd gwladol. Nid ydych chi’n llawn sylweddoli faint o gymorth sy’n bodoli – maent yn ariannu ymchwil a thechnolegau, llety a chymorth newydd ar gyfer cleifion, yn ogystal ag ariannu gwasanaethau ychwanegol fel y gall mwy ohonom ni gael mynediad at well gofal. Roeddwn i’n arfer gweithio i’r GIG ond nid oedd gennyf yr un syniad, ac mae wir wedi bod yn agoriad llygad.
Dywedodd Ellie Orton OBE, Prif Weithredwr yn NHS Charities Together: “Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth enfawr cael cwrdd â Nandan, a phawb sy’n cymryd rhan yn y prosiect hwn, a chael clywed am eu straeon. 75 mlynedd ar ôl sefydliad y GIG, ni fu cymorth elusennol erioed mor bwysig, a gyda’ch help chi, gallwn ni barhau i helpu’r GIG am genedlaethau i ddod. Ar 5 Gorffennaf, gallwch chi gefnogi’r elusen sy’n golygu’r mwyaf i chi a dathlu 75 mlynedd o’r GIG drwy gynnal Te Parti Mawr y GIG. Rydym ni’n gobeithio y bydd rhai o’r straeon hyn yn dangos sut y gall haelioni un unigolyn gael effaith gwirioneddol.
Dywedodd Kirsty Thomson yn Awyr Las: “Mae stori Nandan yn anhygoel. Diolch i gefnogaeth llawer o bobl a sefydliadau lleol sydd wedi helpu i ariannu hyfforddiant a diffibrilwyr CPR, mae Awyr Las wedi gallu helpu i sicrhau bod eraill sy'n cael ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn gallu mynd ymlaen i fyw bywydau llawn fel Nandan. Mae’r cymorth yr ydym ni’n ei dderbyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yn ein cymunedau yn ogystal â chleifion yn ein hysbytai.
Bydd ‘Love and Charity: A History of Giving in the NHS’ yn cael ei arddangos yn oriel Saatchi yn Llundain o 31 Mai i 11 Mehefin 2023 ac mae’n rhad ac am ddim i’r cyhoedd.
Am ragor o wybodaeth am sut y gallwch chi gefnogi Awyr Las: Elusen GIG Gogledd Cymru, ewch i’r wefan ganlynol.