Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

GIG75

Dewch i ddathlu Pen-blwydd y GIG yn 75

Mae Pen-blwydd y GIG yn 75 bron â chyrraedd ac rydym ni’n barod i ddathlu gyda llu o ddigwyddiadau’r Gorffennaf hwn!

Byddwn ni’n dathlu pob un o’n staff GIG anhygoel sy’n mynd y filltir ychwanegol ar ein cyfer ni a’n hanwyliaid. A fyddwch chi’n ymuno yn y dathliadau? Gallwch chi gynnal eich Te Parti Mawr eich hun, cymryd rhan yn ein cystadleuaeth gacennau, neu os ydych chi’n aelod o staff, pam ddim ymuno â ni yn Zip World ar 5 Gorffennaf?

Cymerwch ran yn un o’n digwyddiadau anhygoel yr haf hwn

  • Os ydych chi’n aelod o staff neu’n wirfoddolwr o fewn y Bwrdd Iechyd, mae’r cyfle gennych chi i gymryd tro ar y weiren wib Velocity 2 yn Zip World ym Methesda i helpu i godi arian ar gyfer eich adran. Cliciwch yma i gael eich tocynnau nawr!
  • Ein cystadleuaeth gacennau – mae gwobr ar gael ar gyfer y gacen a chaiff ei haddurno orau YN OGYSTAL â’r rysáit iachaf! Cofrestrwch nawr er mwyn cael y cyfle i ennill iPad i chi’ch hunain a £250 i ward neu adran o’ch dewis chi!
  • Pam ddim cynnal eich Te Parti Mawr eich hun yn eich ward, adran neu o fewn eich grŵp cymunedol neu ysgol. Cliciwch yma i gofrestru ac i dderbyn eich pecyn adnoddau.
  • Cynllun grant GIG75 – anogir staff i ymgeisio am rownd arbennig o ariannu a fydd yn helpu cymunedau ar draws Gogledd Cymru, fel y penderfynir gan staff rheng flaen y GIG. Gall ceisiadau ariannu gynnwys gwelliannau i lety ar gyfer rhieni/gofalwyr cleifion ifanc sydd angen aros yn hir yn yr ysbyty; cymorth dementia ychwanegol; gwasanaethau cymorth profedigaeth; a chymaint mwy. Os ydych chi’n aelod o staff, gallwch chi ymgeisio yma.
  • Os ydych chi’n codi arian i ni, peidiwch ag anghofio sefydlu eich tudalen JustGiving! Gallwch chi wneud hyn yma.

Os fyddwch chi’n dewis codi arian ar gyfer prosiect blaenoriaeth yng Ngogledd Cymru, bydd eich rhoddion yn mynd tuag at brosiectau a benderfynir arnynt gan staff rheng flaen y GIG. Mae enghreifftiau o’r hyn y gellir ei ariannu’n cynnwys: gwelliannau i lety ar gyfer rhieni a gofalwyr cleifion ifanc sydd angen aros yn hir yn yr ysbyty; cymorth dementia ychwanegol; gwasanaethau cymorth profedigaeth; a cherbyd awdioleg i fynd â gwasanaethau i mewn i’r gymuned er mwyn gwella mynediad a chynyddu diagnosis cynnar.

Rydym ni’n hynod gyffrous am ddathliadau Pen-blwydd y GIG yn 75 eleni! Sicrhewch eich bod yn cofrestru ar gyfer un o’n digwyddiadau anhygoel gan ddefnyddio’r ffurflenni isod!

    Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

    Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

    Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here