Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Mwynhewch baned yr haf hwn i ddangos faint yr ydych yn gwerthfawrogi staff a gwirfoddolwyr y GIG, ac er mwyn gwella gwasanaethau cleifion yng Ngogledd Cymru!

Newyddion Te Mawr

Mae Awyr Las, Elusen i’r GIG yn ymuno ag elusennau'r GIG ledled Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr i ddathlu Te Parti Mawr y GIG o ddydd Llun 24 Mehefin tan ddydd Sul 7 Gorffennaf a gwahoddir pawb i ymuno gyda ni.

Mae pobl ledled y DU yn cynnal dawnsfeydd te a the partis ac maent yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau eraill i ddangos faint y maen nhw’n gwerthfawrogi staff y GIG a chodi arian er mwyn gwneud gwasanaethau gofal iechyd hyd yn oed yn well i gleifion rŵan ac yn y dyfodol.

Yma yng Ngogledd Cymru mae cystadleuaeth teisennau arbennig ar thema'r GIG wedi ei threfnu, a does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr ar goginio er mwyn cymryd rhan! Bydd yr enillydd yn ennill iPad a £250 ar gyfer ward, gwasanaeth neu adran sydd yn agos at eu calon.

Dywedodd Lynda Roberts o gyfreithwyr Breese Gwyndaf ym Mhorthmadog:

"Roeddem ni'n meddwl fod hwn yn gyfle gwych i godi arian ar gyfer ymgyrch ‘I CAN’ sy’n rhoi cymorth i wasanaethau iechyd meddwl lleol. Dydyn ni ddim yn gwneud dim byd cymhleth. Yn y swyddfa, bydd pawb yn cyfrannu punt o ddydd Llun 24 Mehefin i ddydd Sul 7 Gorffennaf am bob paned y byddant yn ei hyfed. Bydd yn ddiddorol gweld pwy yn y swyddfa sy'n cyfrannu fwyaf!

"Mae'r GIG yn gwneud gwaith gwych ac rydym eisiau dathlu hynny. Rydym ni hefyd eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gwasanaeth a helpu i wneud yn siŵr y gall pobl fregus yn ein hardal leol elwa o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau gorau, a dyna pam rydym ni'n cymryd rhan yn Nhe Parti Mawr y GIG. "

Ychwanegodd Val Mold, Llywydd Anrhydeddus Tŷ Enfys, y llety rhieni a gofalwyr yn Ysbyty Gwynedd: "Nid yw pob gwasanaeth a ddarperir yn ein hysbytai ac yn lleoliadau'r GIG yn y gymuned yn cael eu hariannu gan y GIG. Diolch i Tŷ'r Enfys gall rhieni a gofalwyr aros dros nos i fod yn agos at eu plant sâl yn rhad ac am ddim. Mae teuluoedd yn dibynnu ar Tŷ Enfys ac mae Tŷ'r Enfys yn dibynnu ar roddion.

"Mae Tŷ Enfys yn amhrisiadwy i rieni a gofalwyr. Er mwyn cynnig y gwasanaeth pwysig hwn, sy'n ychwanegol i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu, mae angen inni godi arian. Dyna pam dwi'n cefnogi’r Te Parti Mawr a dyna pam dwi'n annog eraill i wneud yr un peth. "

Eglurodd Delyth Williams, Pennaeth Nyrsio Ysbyty Gwynedd pa mor ddiolchgar yw'r staff: "Y llynedd cafodd llawer o staff hwyl yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth teisennau ar gyfer pen-blwydd y GIG yn 70 mlwydd oed a bu llawer ohonom yn trefnu te partis ar gyfer ein cleifion a pherthnasau. Mae'n wych oherwydd mae hefyd yn rhoi cyfle inni ddathlu llwyddiannau, cael rhywfaint o hwyl, a helpu i godi arian ar gyfer y pethau bychain ychwanegol pwysig yr ydym yn gwybod eu bod yn gwneud gwahaniaeth i'n cleifion.

"Er mai Te Parti Mawr y GIG yw’r enw, does dim rhaid i’r rhoddion fod yn fawr. Bydd pob rhodd, yn fawr neu’n fach, yn helpu i wneud gwahaniaeth mawr i'n cleifion. "

Os hoffech ddangos eich cefnogaeth i ward, gwasanaeth neu adran o’r GIG sydd yn agos at eich calon, beth am gymryd rhan yn y Te Parti Mawr y mis hwn? I gofrestru ar gyfer pecyn Te Parti Mawr ac i gael rhagor o wybodaeth am gystadleuaeth Teisen Awyr Las ewch i: https://awyrlas.org.uk/cy/bigtea.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here