Sori, does dim lleoedd ar ôl!
Her Awyr Las Zip World Velocity 2
Mae Her Llinell Zip yn rhan o ddiwrnod arbennig o ddathliadau sy'n anelu i godi arian er budd gwasanaethau canser lleol. Yn ystod y dydd, cyn yr Her Zip, fe'ch gwahoddir i gymryd rhan yn y daith 20km Snowdonia Rocks, ac ar ôl i chi wibio a zipio, gellwch fwynhau cerddoriaeth arbennig a dathliadau yn yr Ŵyl Gerddoriaeth Zip Roc.
Yn ystod diwrnod dathliadau Zip World llynedd, codwyd £25,000 i elusennau. Aeth £10,000 o'r arian a godwyd tuag at ariannu cyfarpar newydd ar gyfer ein gwasanaethau canser y fron.
Am wybodaeth bellach ac i brynu eich tocyn ar gyfer gŵyl Zip Roc 2019 neu daith 20 km Snowdonia Rocks, ewch i wefan Zip World.
