Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Taith Gerdded a Pharti Nadolig Cerdded i Dementia 2019

Ymunwch â'r tîm Cerdded i Dementia a chydweithwyr o Ysbyty Llandudno i gael taith gerdded a dathliad hwyliog, Nadoligaidd!

Mae'r daith gerdded lawn (16 milltir) yn cychwyn o Prestatyn Nova am 09:00. Parti yn y Rhos Fynach, Llandrillo-yn-Rhos o 16:30. Gallwch hefyd ymuno â'r daith gerdded o'r Rhyl, Pensarn neu Hen Golwyn, neu ymuno â ni ar gyfer y parti yn unig.

Cofrestrwch ymlaen llaw, naill ai ar y ffurflen isod neu yn Swyddfa Gyffredinol Ysbyty Llandudno.

Adloniant yn y Rhos Fynach ynghyd â gwobrau am y Siwmper Nadolig neu'r Gwisg Ffansi Nadoligaidd orau!

Cost: £10 am Daith Gerdded llawn a'r Parti (£5 i'r parti yn unig)

Mae'r pris yn cynnwys cawl a brechdan sglodion tew yn y Rhos Fynach!

Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at wella prosiectau a chyfleusterau yn Ysbyty Llandudno ar gyfer pobl a theuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan ddementia.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here