Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Marathon Rhithiol Eryri - gwybodaeth i dimau

Rydych chi wedi sicrhau eich lle - nawr mae'n bryd dechrau codi arian!

Diolch am fod yn rhan o'r Marathon Rhithiol Eryri cyntaf erioed

Diolch eto am gymryd rhan ym Marathon RHITHIOL Eryri ac am addo casglu arian fel tîm dros eich achos da o'ch dewis, i wneud gwahaniaeth i gleifion yng Ngogledd Cymru.

Rydym am i'ch profiad o godi arian fod mor hwyliog a hawdd â phosibl felly rydym wedi darparu rhywfaint o ganllawiau codi arian i chi, i'ch helpu i ddechrau arni.

Oeddet chi'n gwybod?

2020 yw Blwyddyn y Nyrs a'r Fydwraig. Beth am helpu i ddathlu hynny trwy redeg mewn het nyrs neu mewn gwisg ffansi ar thema'r GIG? Mae’r ras yn digwydd bod yn ystod wythnos Calan Gaeaf – felly efallai yr hoffech wisgo gwisg Calan Gaeaf erchyll yn lle?

Eich tudalen codi arian

Rydym wedi sefydlu ymgyrch arbennig ar JustGiving fel y gall pob un o'n rhedwyr gwych Marathon Eryri gysylltu eu tudalennau codi arian iddi. Bydd eich cyfansymiau unigol i gyd yn cyfrif i gyfanswm cyffredinol yr ymgyrch.

Ewch i'r ymgyrch nawr: https://www.justgiving.com/campaign/eryrivirtual

I sefydlu'ch tudalen, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

  • Cliciwch ar y botwm "Start Fundraising"
  • Cliciwch "Doing your own thing (nid oes categori Marathon Eryri i'w ddewis o dan "organised event")
  • Mewngofnodwch neu Gofrestru

Penderfynwch pwy yn eich tîm fydd yn mynd ati i sefydlu tudalen y tîm

I sefydlu tudalen TÎM fel y gall aelodau o'r tîm 'gysylltu eu tudalennau hwy , dilynwch y cyfarwyddiadau hyn isod neu defnyddiwch y canllaw defnyddiol ar JustGiving.

Ar eich tudalen chi cliciwch y ddolen 'create a team':

FG4CXAZttZA51hWhaLhg5vA-Mhq1wQSKDxeDvBewP9m_3e5rMPizM4J7_FZhwWHG?id=F-QfYc8eprgoashi3Cbnw8x!&name=Create%20Team.png&ct=image%2Fpng&size=30142
  • Nesaf , gallwch chi roi enw i'ch tîm e.e. WARD DEWI, YG neu TÎM JONES
  • Gofynnir i chi gadarnhau'r elusen rydych chi'n codi arian ar eu cyfer a'r digwyddiad rydych chi'n cymryd rhan ynddo
  • Ychwanegwch stori y tu ôl i'ch rheswm dros godi arian gyda'ch gilydd ac ychwanegu llun - mae tudalennau gyda lluniau a straeon cyflawn yn cael llawer mwy o roddion na thudalennau gwag!
  • Gosodwch darged codi arian y tîm - gallwch osod targedau ar gyfer aelodau unigol o'r tîm trwy ddefnyddio'r ‘drop dwon’
  • Dewiswch gyfeiriad gwe eich tîm a phwyso 'create a team'

Pan gewch eich annog i olygu eich stori, efallai yr hoffech ddefnyddio peth y geiriad a awgrymir isod neu ran ohono:

"Mae TÎM GWAWYN yn rhedeg y Marathon Rhithiol Eryri eleni ac, yn ogystal â gwneud hynny i gadw'n heini ac yn iach, rydym yn codi arian i gefnogi iechyd meddwl pobl hŷn, sy'n agos at ein calonnau. Bydd yr arian a godwn yn helpu i gefnogi cleifion a'u teuluoedd, yn ychwanegol at yr hyn y gall y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS) ei ddarparu.

"Trwy 400 cronfa wahanol mae Awyr Las, Elusen GIG Gogledd Cymru, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn ysbytai ac mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru."

Ychwanegu mwy o fanylion

Gallwch olygu eich tudalen i gynnwys lluniau a newid manylion a thargedau personol ac ati. Os cliciwch ar eich ENW ar yr ochr dde uchaf ac yna YOUR FUNDRAISING bydd hyn yn mynd â chi i'ch tudalennau, lle gallwch eu golygu fel y mynnwch.

Hyd yn oed os ydych chi'n codi arian oddi ar-lein, gallwch ychwanegu hyn at eich cyfanswm a blogio am y cyfanswm yr ydych wedi ei redeg hyn yma neu'r teithiau rhedeg yr ydych chi wedi'u cynllunio.

Pwysig: Sicrhewch eich bod yn sefydlu tudalen codi arian sydd yn gysylltiedig â Marathon Rhithiol ar gyfer ymgyrch Awyr Las ac nid yn y dudalen "Crowdfunding". Nid yw tudalennau cyllido torfol wedi'u cysylltu â'r elusen sy'n golygu y byddwch chi'n colli allan ar yr holl Gymorth Rhodd hyfryd sydd ar gael!

A ydych chi eisoes wedi sefydlu eich tudalen JustGiving ond heb ei chysylltu â'r ymgyrch? Peidiwch â phoeni - gyrrwch eich manylion URL inni a byddwn yn gallu cysylltu popeth mewn dim o dro!

Adnoddau Codi Arian

  • Os credwch y byddwch yn cael rhai rhoddion sydd ddim ar-lein, yna bydd angen Ffurflen Nawdd arnoch - gallwch ei lawrlwytho isod.
  • Edrychwch ar ein Cynorthwyydd Codi Arian sef canllaw defnyddiol i’ch helpu i gasglu cymaint o arian a phosibl. Cliciwch isod!

Angen unrhyw beth arall?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gasglu arian, p'un a yw'n syniad neu'n ymholiad cyffredinol, mae croeso i chi gysylltu fel y gallwn eich helpu chi.

Ar ran pawb a fydd yn elwa o'ch cefnogaeth garedig, diolcho galon! Pob lwc gyda'r her a mwynhewch!

Ewch amdani!

Tîm Cefnogi Awyr Las

awyrlas@wales.nhs.uk

01248 384 395

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here