Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Grantiau Profiad Staff

Mae Awyr Las wedi lansio cynllun grantiau bach Profiad Staff newydd; ar agor o ddydd Iau 7fed Tachwedd 2019 tan ddydd Gwener 29ain Tachwedd 2019.

Gall staff ar draws BIPBC gyflwyno cais am hyd at £2,000 i ddatblygu prosiect sydd â phrif nod o wella Profiad Staff mewn ffyrdd a fydd yn cael effaith cadarnhaol ar Brofiad Cleifion.

Dyma'ch cyfle chi i brofi ffyrdd newydd o weithio, cyflwyno syniad, neu ddechrau gwneud pethau'n wahanol ar gyfer staff BIPBC a fydd yn y pen draw yn arwain at well profiad cleifion.

Oes gennych chi syniad gwych a fydd yn helpu i wella Profiad Staff yn BIPBC?

Os felly, gwnewch gais heddiw!

Cymhwyster

Rhaid i'ch syniad:

  • Gyfrannu'n gadarnhaol at Brofiad Staff yn BIPBC (gweler yr adran Cwestiynau Cyffredinol am fwy o wybodaeth).
  • Fod dan arweiniad aelod o staff BIPBC
  • Gyfrannu at amcanion strategol allweddol BIPBC
  • Fod yn elusennol ac yn unol â gweithdrefnau ariannol Awyr Las

Ni dderbynnir ceisiadau ar gyfer y canlynol:

  • Hyfforddiant gorfodol
  • Gofynion Iechyd Galwedigaethol.
  • Eitemau, cyfleusterau neu weithgareddau statudol
  • Eitemau, cyfleusterau neu weithgareddau sydd eisoes wedi'u hariannu gan BIBPC

Beth fydd y grant Profiad Staff yn ei ariannu?

Mae'n rhaid i'ch cais fod yn perthyn i un o dri chategori. Y rhain yw:

  • Lles, Ymarfer ac Iechyd
  • Hyfforddiant, Addysg ac Ymchwil
  • Offer a chyfleusterau newydd

Er enghraifft: Prosiect maeth sydd wedi'i anelu at weithwyr sifft nos i'w helpu i gynnal arferion bwyta da yn y gwaith ac yn y cartref.

Proses Asesu

Bydd y Pennaeth Codi Arian a Chyfrifydd yr Elusen yn adolygu'r holl geisiadau a dderbyniwyd cyn y dyddiad cau (23:59 ar 29/11/19). Yna bydd uchafswm o 20 cais yn cael ei roi ar restr fer. Bydd y ceisiadau ar y rhestr fer yn cael eu hasesu gan aelodau’r Pwyllgor Cronfeydd Elusennol, cynrychiolwyr cleifion ac aelodau o’r Tîm Cefnogi Awyr Las, a fydd yn sgorio’r ceisiadau ar y rhestr fer. Bydd y prosiect sydd â'r sgôr uchaf yn llwyddiannus ac yn cael grant Profiad Staff.

Bydd uchafswm nifer y ceisiadau llwyddiannus yn dibynnu ar faint o arian y bydd pob ymgeisydd yn gofyn amdano. Mae £24,500 ar gael, felly bydd o leiaf 12 prosiect yn derbyn uchafswm o £2,000 yr un.

Meini Prawf Asesu

Wrth ddewis pwy sy'n cael grant, bydd y prosiectau sy'n mynd i'r afael â'r meini prawf asesu canlynol yn cael y sgôr uchaf:

  • Cyfanswm y staff a'r cleifion all elwa
  • Y math o fantais y bydd staff a chleifion yn ei chael a sut bydd hyn yn gwella'u profiad
  • Pa mor arloesol yw'r syniad
  • Pa mor debygol ydyw o wneud gwahaniaeth, gwella ansawdd, a gwella gofal - a'r dystiolaeth a ddarperir i gefnogi hyn
  • P'un ai os oes cynlluniau i barhau gyda'r prosiect ar ôl y grant cychwynnol o £2,000, ac os oes cynllun codi arian yn ei le i gefnogi hyn
  • Pa mor gadarn yw'r dull o fonitro a gwerthuso'r prosiect

Sut i Wneud Cais

Cwblhewch y ffurflen gais isod yn llawn.

Os ydych yn cael trafferth cael mynediad at y ffurflen ar-lein yn y gwaith, efallai nad oes gennych yr awdurdod angenrheidiol i gael mynediad at wefan Awyr Las. Er mwyn datrys hyn, logiwch alwad gyda'r Ddesg Gymorth gan ddefnyddio'r Porth Gwybodeg ar eich bwrdd gwaith.

Mae'n rhaid i chi gael yr awdurdod angenrheidiol cyn cyflwyno'ch cais - gweler cwestiwn 8 yn y Cwestiynau Cyffredinol isod.

Dyddiad cau

Mae'n rhaid derbyn ceisiadau erbyn 23:59 dydd Gwener 29 Tachwedd. Ni fydd ceisiadau a dderbynir ar ôl hyn yn cael eu hystyried ar gyfer y rhestr fer.

Pa bryd y byddwn yn gwybod?

Byddwn yn rhoi gwybod i chi erbyn 5pm Dydd Gwener 13ain Rhagfyr 2019 p'un ai yw eich syniad wedi ei ddewis i gael grant Profiad Staff.

Cwestiynau Cyffredinol

  1. Beth yw Profiad Staff? Mae Profiad Staff yn cael ei ddiffinio fel "Sut mae staff yn teimlo pan maent yn y gwaith." Mae tystiolaeth yn dangos bod cael staff iach, sydd wedi ymgysylltu, yn arwain at gynnydd mewn cynhyrchiant a gweithlu hapusach yn gyffredinol; gan arwain at ganlyniadau gwell i gleifion. Mae staff sy'n teimlo'n rhan a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi yn gwneud gweithlu cryf, ac mae gweithlu cryf yn hanfodol er mwyn cyflawni gwelliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau gofal iechyd. Mae er pennaf les BIPBC a'n cleifion a'r gymuned ehangach bod ein gweithwyr yn mwynhau Profiad Staff cadarnhaol.
  2. A yw fy ward, adran neu brosiect yn gymwys? Mae pob ward, adran a phrosiect yn gymwys i wneud cais. Os nad ydych yn siŵr, gwiriwch cyn gwneud cais - e-bostiwch awyrlas@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01248 384395.
  3. Pwy all gyflwyno'r ffurflen? Mae'n rhaid i chi fod yn aelod o staff BIPBC i gyflwyno’r cais. Mae'n rhaid i bob prosiect fod o dan arweiniad aelod o staff BIPBC. Mae'n rhaid i aelod o staff BIPBC fod â pherchnogaeth o'r prosiect a pharhau'n ran o'r prosiect ar gyfer hyd y prosiect. Gall partïon allanol, gan gynnwys grwpiau trydydd sector, fod yn rhan o'r cais. Gall staff Iechyd y Cyhoedd hefyd fod yn rhan o lunio'r cais, ond rhaid i aelod o staff BIPBC gyflwyno'r cais.
  4. A oes unrhyw beth penodol rydych eisiau ei weld yn y cais? Croesawir pob syniad - ond cofiwch fod y cynllun grant hwn wedi'i gynllunio i gefnogi mentrau Profiad Staff, gyda'r prif nod o well Profiad Cleifion. Bydd gofyn i chi ddangos yn y cais sut bydd eich prosiect yn effeithio staff a sut y bydd hyn yn ei dro yn cyfrannu at wella Profiad Cleifion.
  5. A allaf wneud cais os nad oes gan fy ward, gwasanaeth neu adran gronfa Awyr Las? Gallwch - ond os ydych yn cael grant, efallai y byddwch angen ystyried agor cronfa er mwyn parhau gyda'ch prosiect ar ôl i chi wario'r grant cychwynnol.
  6. Allwch chi fy helpu i lenwi'r ffurflen? Yn bendant - os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag awyrlas@wales.nhs.uk neu 01248 384395 (WHTN 1746 4395).
  7. Beth fydd angen i mi ei wneud os yw fy ward / gwasanaeth / adran yn llwyddiannus? Byddwn yn cysylltu â chi gyda'r camau nesaf. Bydd gofyn i chi gwblhau ffurflenni monitro cyfnodol drwy gydol eich prosiect (gan gynnwys lluniau a thystebau gan staff neu fuddiolwyr) a chyflwyno adroddiad gwerthuso byr ar ôl i'r prosiect orffen, ond bydd Tîm Cefnogi Awyr Las yn eich helpu â hyn.
  8. Pwy sydd angen awdurdodi fy nghais? Bydd angen i aelod o staff sy'n Fand 6 neu uwch lofnodi eich cais. Os nad ydych yn siŵr i bwy i ofyn, siaradwch â ni cyn cyflwyno eich cais - awyrlas@wales.nhs.uk neu 01248 384395 (WHTN 1746 4395)

Sylwch: Gallwch arbed eich cynnydd ac ailddechrau yn ddiweddarach os dymunwch. Sicrhewch eich bod yn pwyso'r botwm "Save".

Rydym yn argymell gwirio eich bod wedi derbyn dolen i ailddechrau'ch cais trwy e-bost cyn i chi gau'r ffurflen.

PWYSIG: Bydd eich cais yn parhau i fod yn anghyflawn nes i chi lenwi'r holl feysydd a phwyso "Ymgeisio".

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here