Yn lle anfon cardiau cyfarchion eleni, rydw i wedi dewis cefnogi apêl "Shillings for Sheets" Cyswllt Iechyd Betsi Kenya. Rwyf wedi rhoi’r £40 y byddwn fel arfer yn ei wario ar gardiau a phostio i’r ymgyrch, sydd â’r nod o brynu lliain gwely ar gyfer gwelyau yn Ysbyty Cyfeirio Sir Busia.
Ar hyn o bryd mae gan welyau yn Ysbyty Cyfeirio Sir Busia fatresi gyda gorchudd plastig, a dim lliain. Mae fy £40 yn ddigon i brynu lliain newydd ar gyfer 4 gwely yn yr ysbyty. Gallai'r rheidrwydd syml, beunyddiol hwn wella cysur i gleifion a helpu i leihau problemau gydag atal heintiau.
Os gallwch chi, ymunwch ag apêl Shillings for Sheets Cyswllt Iechyd Betsi Kenya a helpwch ni i godi £2,000 - digon o arian i brynu dillad gwely ar gyfer pob gwely yn Ysbyty Cyfeirio Sir Busia.
Diolch.