Mae 110 o rediadau tractor cryf yn codi miloedd i elusennau lleol
Ar ddiwrnod heulog ym mis Mai, cafodd cymuned Pen Llŷn y pleser arbennig o weld 110 o dractorau'n cael eu gyrru o amgylch lonydd gwledig Pen Llŷn ac Eifionydd!
Cafodd y digwyddiad tractorau hynod lwyddiannus ar gyfer elusen ei drefnu gan dri chlwb ffermwyr ifanc - Clwb Godre’r Eifl, Clwb Porthdinllaen a Chlwb Llangybi, a chafodd yr arian a godwyd ei rannu rhwng tair elusen yn cynnwys Elusen y GIG yng Ngogledd Cymru, sef Awyr Las.
Dywedodd Elin Owen Jones, un o drefnwyr y digwyddiad: "Roedd cymaint o bobl wedi dod i'r digwyddiad ac roedd hi mor braf dod at ein gilydd ar ôl y pandemig ac i wneud rhywbeth hwyliog.
"Yn ffodus, roedd 9 Mai yn ddiwrnod heulog braf, a gwnaeth y tractorau deithio 25 milltir o amgylch Pen Llŷn ac Eifionydd."
"Cafodd rhyw £3,600 eu codi ar y diwrnod a bydd Awyr Las yn derbyn £1,250, gwnaethom ni ddewis yr elusen gan fod yn arian yn mynd tuag at wella bywydau cleifion a staff," ychwanegodd Elin.
Bydd y rhodd anhygoel hon a godwyd yn y rhediad tractor yn mynd tuag at rai o’n prosiectau sydd ar y gweill a fydd yn helpu i wella gofal i gleifion ar draws Gogledd Cymru.
Oes gennych chi syniad am ddigwyddiad eich hun? Cysylltwch â ni yn awyrlas@wales.nhs.uk i rannu eich syniad a darganfod sut i ddechrau!