Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Teithio ar wifren wib gyflyma’r byd er cof am chwaer

Mentrodd teulu Sulwen Jones ar y wifren wib Velocity 2 yn Zip World ym mis Mehefin er cof amdani. Yn drist iawn, bu farw Sulwen yn 2021 ar ôl brwydr 20 mlynedd yn erbyn Sglerosis Ymledol.

Dim ond 35 oed oedd Sulwen pan gafodd y diagnosis yn 2001 ac roedd yn ddynes ddewr a phenderfynol iawn ar hyd ei hoes, a thrwy gydol ei diagnosis.

Mentrodd ei chwiorydd, Nerys a Brenda, a’u partneriaid Steve ac Elwyn, ar y wifren wib gyflymaf yn y byd yn Zip World Bethesda er cof amdani gan godi bron i £3,000 i gefnogi cleifion Sglerosis Ymledol eraill yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Nerys, chwaer Sulwen: “Roedd meddwl am fynd ar y wifren yn codi arswyd arnom ni, ond roeddem yn edrych ymlaen at wneud yr her hefyd, er cof am Sulwen, ar ei phenblwydd yn 57 oed. Roedd yn wych, rhywbeth bythgofiadwy.

“Rydym eisiau diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gronfa ar gyfer Sglerosis Ymledol yn Awyr Las. Rydych chi wedi’n helpu i godi bron i £3,000, sydd ymhell tu hwnt i’r hyn roeddwn wedi disgwyl i ni allu ei wneud.”

Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at les, offer a chysur cleifion Sglerosis Ymledol eraill ar draws Gogledd Cymru.

Os hoffech gefnogi’r gronfa Sglerosis Ymledol, cliciwch yma.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here