Straeon o'r Galon: Stori Kate
Mae Kate yn Nyrs Gofal Critigol yn Ysbyty Maelor, Wrecsam. Mae ei swydd arbenigol hi'n ymwneud â gofalu am gleifion hynod o sâl sydd angen lefel uchel o ofal.
Rydw i'n gweithio yn yr Uned Gofal Critigol sy'n derbyn y cleifion sydd fwyaf sâl. Mae llawer o'r cleifion ar beiriannau anadlu neu wedi cael llawdriniaeth fawr. Mae angen llawer o ofal arnynt, fel gofal 1 i 1, monitro agos, neu driniaeth benodol i leddfu poen. Mae'r gwaith yn yr Uned Gofal Critigol yn hynod o ddwys, mae'n rhaid cadw llygaid barcud ar y cleifion drwy'r amser gan eu bod yn gallu dirywio'n gyflym.
Rydw i hefyd yn rhan o’r tîm dilynol a phrofedigaeth gan fy mod yn teimlo’n angerddol dros gefnogi cleifion a’u hanwyliaid pan fyddant yn marw. Gan fod y pandemig bellach wedi mynd heibio, rydym yn gallu ymweld â chartrefi i weld rhai o deuluoedd y cleifion a fu farw yn ystod y pandemig. Roedd y pandemig yn gyfnod anodd dros ben i bawb. Mae'n bwysig iawn ein bod yn siarad am yr hyn a ddigwyddodd a rhannu'r blychau atgofion a ariannwyd gan Awyr Las, ein Helusen GIG.
Er ein bod yn symud ymlaen, ni fydd pethau byth yn normal. Rydym ni'n dal i weld cleifion Covid a phan fo hynny'n digwydd, mae’r staff yn poeni y byddwn ni'n profi ton arall. Fe fydden ni’n gallu ymdopi eto pe bai’n rhaid, ond mae’n ofn mawr i’r staff sy’n dal i ddod i delerau â’r cyfnod hwnnw.
Mae staff y GIG yn ei chael hi'n anodd iawn ar hyn o bryd. Ers y pandemig, nid yw nifer y cleifion wedi gostwng o gwbl. Yn ystod y pandemig, roedden ni’n gofalu am gleifion Covid yn unig. Erbyn hyn, rydyn ni’n cael cymysgedd o gleifion Covid a mathau eraill. Er enghraifft, mae gennym ni bellach gleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty â’r ffliw, rhywbeth nad oeddem ni wedi ei weld yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Rwy'n frwd dros gefnogi prosiectau lles ar gyfer staff yn yr ysbyty. Yn ddiweddar, mae’r metron wedi dechrau codi arian i ddatblygu gardd newydd ar gyfer y tîm gofal critigol. Mae prosiectau fel hyn mor bwysig gan y byddwn ni’n gallu mynd â chleifion yno, a gall staff fynd yno i fyfyrio hefyd. Mae’n bwysig i ni gael yr ardaloedd hyn. Weithiau bydd gennym ni achosion arbennig o anodd, er enghraifft pan fyddwn ni’n gweld pobl ifanc. Mae’n rhaid i ni gael amser i brosesu’r hyn yr ydym wedi’i brofi cyn derbyn cleifion newydd. Mae’n bosibl bod staff o dan bwysau o’r tu allan i'r ysbyty hefyd ac mae’n rhoi cyfle iddyn nhw gael eu cefn atynt cyn mynd yn ôl at bwysau a phrysurdeb y ward.
Rydw i wedi bod yn gweithio yn y GIG ers 24 mlynedd. Penderfynais un diwrnod fy mod eisiau bod yn nyrs a dydw i erioed wedi difaru hynny. O’i gymharu â gwledydd eraill, rydyn ni’n ffodus iawn bod gennym ni’r GIG. Rwy’n teimlo’n angerddol iawn y dylem ni ei ddiogelu a chefnogi staff y GIG.