Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Radio Ysbyty Gwynedd yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol o gyflwynwyr radio!

Mae Gorsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn Radio Ysbyty Gwynedd yn gweithio gyda Ysgol Uwchradd Bodedern ar ysbyrdoli cenedlaethau’r dyfodol o gyflwynwyr radio.

Mae'r orsaf radio ysbyty lleol ym Mangor yn adnabyddus am ei llwyddiannau o ran datblygu talent i'r diwydiant radio ac mae'n gobeithio gweithio gyda mwy o ysgolion ar y fenter hon.

Ymwelodd Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd â’r ysgol uwchradd ym Modedern i siarad â grŵp o fyfyrwyr am y diwydiant radio a chyfleoedd gwirfoddoli.

Mae William Owen, disgybl yn Ysgol Uwchradd Bodedern wedi cael ei hyfforddi gan Radio Ysbyty Gwynedd ac yn edrych ymlaen at gyflwyno ei raglen radio ei hun ar Radio Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd William: “Rwy’n gyffrous iawn i ddechrau cyflwyno rhaglen fy hun ar Radio Ysbyty Gwynedd. Mae wedi bod yn freuddwyd gen i i fod yn gyflwynydd radio. Rydw i wedi mwynhau fy sesiynau hyfforddi yn yr orsaf ac maen nhw wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy hyder gyda chyflwyno byw. Bydd fy rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o eitemau a straeon hwyliog o fy mhlentyndod”.

Paul Magee, athro yn Ysgol Uwchradd Bodedern cafodd y syniad o weithio gyda Radio Ysbyty Gwynedd ar y prosiect, dywedodd: “Fel ysgol, rydym yn hynod falch o William yn cychwyn ar ei daith fel cyflwynydd ar Radio Ysbyty Gwynedd! Hoffem i gyd ddymuno pob lwc iddo ac edrychwn ymlaen at wrando ddydd Sul!”

Mae Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd yn falch iawn o weithio gyda’r ysgol uwchradd “Rwy’n meddwl ei bod yn wych ein bod ni fel gorsaf yn helpu i ddatblygu cyflwynwyr radio newydd drwy gynnig cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddiant proffesiynol yn y diwydiant. Mae William wedi symud ymlaen drwy ein hyfforddiant ac ni allaf aros i wrando ar ei raglen ar ein gorsaf. Os hoffai unrhyw ysgol uwchradd arall weithio gyda'n gorsaf, cysylltwch â ni. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi”.

Bydd rhaglen gyntaf William Owen ar Radio Ysbyty Gwynedd yn cael ei darlledu ddydd Sul, 12 Chwefror am 12yp.

Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi bod yn darlledu ers 1976 ac yn dathlu ei benblwydd yn 47 eleni. Gall cleifion Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau a gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here