Cleifion canser i dderbyn cymorth iechyd meddwl diolch i gymynrodd yr ymgyrchydd Irfon Williams
Bydd Uned Canser Alaw Ysbyty Gwynedd, yn penodi Nyrs Iechyd Meddwl i helpu cleifion a'u teuluoedd am y tro cyntaf erioed, diolch i gyllid oddi wrth #TîmIrfon.
Cyn marwolaeth gynamserol Irfon Williams yn 2017 o ganlyniad i ganser datblygedig y coluddyn, bu'n freuddwyd ganddo y byddai gan Ward Alaw Nyrs Iechyd Meddwl benodol - rhywun sy'n gallu helpu cleifion a'u teuluoedd i ddelio â'u diagnosis, cynnig asesiadau iechyd meddwl a rhoi cymorth o ran cyfeirio at ymyrraeth fwy arbenigol os bydd angen.
Ac yntau'n gyn reolwr iechyd meddwl yn BIPBC, roedd Irfon yn deall pwysigrwydd iechyd meddwl a lles i gleifion.
Lansiodd ymgyrch #TîmIrfon yn dilyn ei ddiagnosis, ac ar adeg ei farwolaeth, roedd wedi codi swm aruthrol o £150,000 a daeth yn adnabyddus yn genedlaethol fel ymgyrchydd dros ofal canser.
Dywedodd Manon Williams, Metron yr Uwch Adran Ganser: "Roedd fy ffrind Irfon bob amser yn awyddus i ofal a chymorth seicolegol fod yn rhan annatod o ofal canser.
"Bydd y Nyrs Gymorth Iechyd Meddwl yn rhan annatod o dîm Alaw, a bydd yn cynnal rowndiau ward gan gynnig cymorth i gleifion ar yr uned ddydd."
"Bydd y nyrs yn gallu cyfeirio cleifion sydd ag anghenion mwy cymhleth.
"Caiff y rôl ei hysbysebu dros yr wythnosau sydd i ddod, ac rydym yn gobeithio penodi rhywun cyn y Nadolig.
"Bydd yn secondiad dwy flynedd yn y lle cyntaf ac mae'r staff yn gyffrous iawn y bydd y freuddwyd hirddisgwyliedig hon yn cael ei gwireddu'n fuan iawn," meddai Manon.
"Hoffwn ddiolch i #TîmIrfon ac i Awyr Las am droi hyn yn realiti, rydw i'n gwybod y bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'n cleifion, eu teuluoedd a'n staff."
Dywedodd gwraig weddw Irfon ac sy'n fam i ddau o'i blant, Becky Williams: "Rydw i'n gwybod o brofiad bod derbyn diagnosis canser yn ddigwyddiad ysgytwol ac emosiynol i gleifion a'u teuluoedd.
"O brosesu’r newyddion am ddiagnosis canser i reoli'r cynllun gofal, mae'n bwysig ar bob cam o'r daith ganser bod cleifion yn canolbwyntio ar eu hiechyd corfforol a'u hiechyd meddwl.
"Felly yn amlwg rydw i'n hynod falch y bydd Nyrs Iechyd Meddwl #TîmIrfon yn ei swydd yn fuan gan weithio fel rhan o'r tîm amlddisgyblaethol ar Ward Alaw a fydd yn fuddiol i gleifion a theuluoedd yn lleol. Mae'r swydd hon diolch i'r bobl anhygoel sy'n parhau i gefnogi a chodi arian hollbwysig ar gyfer #TîmIrfon."
Os hoffech helpu i gefnogi cleifion canser yn Ysbyty Gwynedd, gallwch roi i #TîmIrfon nawr trwy glicio yma.