Mae Malcolm yn seiclo 800 milltir er cof am ei wraig
Trwy gydol mis Mai, bydd Malcolm Pitts yn nofio 10 milltir, ac yn beicio 800 milltir i godi arian er cof am ei wraig Yvonne, a fu farw yn 2006 ar ôl brwydro yn erbyn canser y fron.
Mae Malcolm wedi bod yn codi arian i Uned Dydd Alaw, Ward Conwy, a’r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Gwynedd ers 2007, a hyd yma, mae wedi codi dros £20,000.
Ym mis Awst 1982, wedi bod yn briod ag Yvonne am gyn lleied â naw mis, bu Malcolm mewn damwain ffordd, ac roedd ar beiriant cynnal bywyd am dair wythnos. Yn dilyn y ddamwain, cafodd lu o anafiadau, gan gynnwys anaf i’r pen, niwed i’r ymennydd, epilepsi, ac roedd yn cofio ychydig iawn. Gofalodd Yvonne amdano yn ystod y cyfnod hwn, ond yn fuan daeth tro ar fyd pan fu i Yvonne dderbyn diagnosis o ganser yn 36 mlwydd oed.
Dywedodd Jennifer Owens, Prif Nyrs ar Uned Ddydd Alaw: “Mae Malcolm yn codi arian i ni ers blynyddoedd er cof am ei wraig Yvonne, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi codi swm anhygoel o arian gan ganiatáu i ni ddarparu eitemau ychwanegol ar gyfer cleifion ar yr Uned.
"Rydym ni mor ddiolchgar am ymdrechion codi arian Malcom ac rydym ni'n rhyfeddu o ran pa mor bell y bydd yn nofio ac yn beicio i godi'r arian hwnnw! Diolch yn fawr am eich cefnogaeth barhaus, Malcom!"
Bob blwyddyn mae Malcolm wedi cynyddu ei filltiroedd wrth nofio a beicio er mwyn codi cymaint o arian â phosib i’r ysbyty a ofalodd am Yvonne, ac mae ei ymroddiad wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i gleifion, teuluoedd ac i aelodau o staff.
Dywedodd Malcolm: “Mae’n waith emosiynol iawn i’w wneud ond mor werth chweil. Diolch yn fawr iawn i deulu, ffrindiau a’r gymuned leol am eu cefnogaeth barhaus.”
Os hoffech gefnogi Malcolm yn ei waith o godi arian, ewch i: https://justgiving.com/algc