Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

“Mae staff ar Ward Alaw wir yn teimlo fel teulu"

Pob lwc i'r staff diwyd yn Uned Ganser Alaw sy'n paratoi i gymryd rhan mewn ras Gyfnewid am Oes am 24 awr yn Nhreborth, Bangor, ar 18 Mehefin.

Mae 12 aelod o staff wedi rhoi eu henwau i lawr ar gyfer y ras gyfnewid gan eu bod nhw'n awyddus i wneud rhywbeth hwyliog gyda'i gilydd.

"Bydd 12 ohonom ni'n cymryd ein tro i wneud cylchdro o ddwy awr dros y 24 awr gyfan. Rydym ni i gyd yn edrych ymlaen ato, gan mai hwn fydd y digwyddiad cymdeithasol go iawn cyntaf i ni gael dod at ein gilydd ers i'r pandemig ddechrau.

“Mae staff ar Ward Alaw wir yn teimlo fel teulu, rydym ni'n uned gefnogol iawn ac rydym ni bob amser yn cyd-dynnu.

“Rydym ni wedi cymryd rhan yn y ras gyfnewid hon o'r blaen ac mae wir yn ddigwyddiad cyfeillgar. Cawn ein harwain gan Gapten y Tîm Emma Roberts a bydd rhai ohonom ni'n gwneud y cylchdroeon gan wisgo gwisg ffansi. Mae'n ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o ganser, a bydd yn braf dod at ein gilydd eto ac i wneud rhywbeth hwyliog."

Victoria Jones, Nyrs Arbenigedd Haematoleg ar Ward Alaw

Dyma obeithio y bydd y tywydd yn ffafriol gan fod rhai aelodau o'r tîm yn gwersylla dros nos! Mwynhewch, Dîm Alaw!

Mae #TîmIrfon ar hyn o bryd yn codi arian i brynu capiau oeri ar gyfer Uned Alaw, ac mae cleifion a theuluoedd diolchgar eraill yn codi arian ar gyfer offer newydd i fod yn fuddiol i gleifion a hyfforddiant ychwanegol ar gyfer rhaglenni staff ac ymchwil. Gallwch ddangos eich cefnogaeth tuag at Uned Alaw trwy roi yma: Awyr Las | Rhowch heddiw .

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here