Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Mae Cyfrinfa Seiri Rhyddion Bwcle yn ariannu blychau llesiant cleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae Cyfrinfa Seiri Rhyddion Bwcle wedi cyflwyno rhodd anhygoel o £1,000 i gronfa Star Box yn Uned Seren Wib Maelor Wrecsam er mwyn darparu mwy na 50 o focsys llesiant i gleifion canser newydd.

Sefydlwyd y cynllun Star Box gan chwech o wirfoddolwr yn 2022; blychau llesiant yw Star Box ac fe’u cynlluniwyd i gefnogi cleifion cemotherapi newydd ar ddechrau eu cyfnod triniaeth canser yn Uned Seren Wib Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae’r blychau, a gyflwynwyd i’r uned am y tro cyntaf yn gynharach eleni, yn cael eu cynnig i gleifion gwrywaidd a benywaidd fel ei gilydd, ac maen nhw’n llawn eitemau sy’n cynnig cysur, megis hancesi papur, eli dwylo, potel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio, mwg, te, coffi, siocled poeth, fferins a siocledi moethus.

Dywedodd Anne Marie Humphreys, Prif Nyrs yn yr Uned Seren Wib a chyd-sylfaenydd Star Box: “Rydym yn hynod o falch ein bod wedi cael ein dewis i dderbyn y rhodd yma yn dilyn ymgyrch codi arian diweddar Cyfrinfa Seiri Rhyddion Bwcle.

“Mae pob blwch yn costio tua £15 i'w lenwi ac mae'r Tîm Star Box yn llenwi 40 blwch y mis. Mae pob claf newydd yn yr uned yn cael cynnig blwch ar ddechrau eu cyfnod cemotherapi, ac mae’n llawn o bethau da ac eitemau defnyddiol fydd yn gysur.”

Codwyd yr arian drwy gynnal digwyddiadau a rafflau yng Nghyfrinfa’r Seiri Rhyddion.

Ewch i https://www.justgiving.com/campaign/starbox i gefnogi cronfa Star Box Uned Seren Wib Ysbyty Maelor Wrecsam,

Mike Coombs ac Alan Gardner o Gyfrinfa Seiri Rhyddion Bwcle yn cyflwyno’r siec o £1,000 i staff Nyrsio a Gweinyddol Uned Seren Wib a gwirfoddolwyr Star Box, Kathryn Owen a’r Brif Nyrs Uwch Anne Marie Humphreys.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here