Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Mae mam i bedwar yn trefnu Dawns Nadolig hudolus i godi arian ar gyfer Canolfan Ganser Gogledd Cymru

Mae mam i bedwar yn trefnu Dawns Nadolig hudolus i godi arian ar gyfer Canolfan Ganser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd, wedi iddi hi dderbyn diagnosis canser y fron flwyddyn yn ôl.

Roedd Ruth Hogan, marchogwraig frwd yn meddwl i'r lwmp mawr yn ei bron gael ei achosi mwy na thebyg gan un o'i cheffylau yn taro i mewn iddi. A hithau ond yn 44 oed wnaeth hi erioed freuddwydio y gallai fod yn ganser y fron oherwydd ei hoedran.

“Roeddwn wedi mynd at fy meddyg teulu ynghylch mater arall ac yn union ar y diwedd fe wnes i grybwyll mod i wedi canfod lwmp mawr yn fy mron, ac wedi i'm meddyg ei harchwilio, dywedodd fod angen i mi gael archwiliad trwyadl,” meddai Ruth.

Yn dilyn sganiau a biopsïau, rhoddwyd y newyddion torcalonnus i Ruth bod ganddi diwmor 6cm. Ers hynny mae hi wedi cael tair llawdriniaeth i'w dynnu, ail greu bron a radiotherapi.

"Yr hyn â'm cadwodd i fynd trwy'r holl amser yma ar wahân i'r gefnogaeth anhygoel gan fy ngŵr, Jamie, a'r staff ffantastig yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd, oedd fy mod i'n gwneud yn siŵr mod i'n parhau i gefnogi fy mhlant mewn sioeau ceffylau premier ar draws y wlad.

“Wedi llawdriniaeth, fe wnes i wrthod aros i mewn, byddwn yn teithio i'r Alban neu ble bynnag roedd y sioe geffylau yn digwydd bod, ac fe wnaeth hyn fy helpu yn aruthrol.”

Mae Ruth bellach yn rhydd o ganser diolch byth ac i ddweud diolch i'r tîm yn Ysbyty Glan Clwyd ac i Ysgol Myddelton, Sir Ddinbych, mae hi wedi trefnu’r hyn sy'n addo bod yn ddawns ddisglair yn yr ysgol ar 10 Rhagfyr .

“Rydw i eisiau dweud diolch i Rhian y nyrs ganser y fron yn Ysbyty Glan Clwyd, i'r radiolegydd rhyfeddol Andy Gash yn Ysbyty Gwynedd, ac i'm llawfeddyg anhygoel Mr Khattak fu mor galonogol drwy gydol y broses hon,” meddai Ruth.

“Mae tocynnau i'r ddawns yn £60 am adloniant byw a chinio pedwar cwrs, ac fe fydd ocsiwn gyda rhai gwobrau anhygoel.”

Ychwanegodd: “Mae rhai tocynnau ar ôl felly dw i'n gobeithio y bydd pobl yn bachu’r tocynnau hyn gan y bydd hi'n noson wych!”

Gellir prynu tocynnau trwy ffonio neu e-bostio Ruth neu'r ysgol- Ffôn: 0789 4068873 neu Goleg Myddelton 01745 472201 neu e-bost: hogancaravan@hotmail.co.uk.

Mae gwobrau ar gyfer yr ocsiwn yn cynnwys:

1) 4 x Tocyn Manchester United gyda Lletygarwch Llawn a roddwyd yn garedig iawn gan Karen Farrell o'r Gwasanaethau Atal Troseddau .

2) Dosbarth Meistr Coctels i 8 o ferched gan The Famous Kingdom of Kingdoms Gin yng Nghaer

3) Hamper mawr o Harrods a roddwyd yn garedig gan Wirtgen.

4) Rasio Ceffylau i 4 gyda Lletygarwch Llawn yn Nhrac Rasio Tramore, Iwerddon

5) Gemwaith Clogau

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here