Goroeswr ataliad y galon yn codi miloedd o bunnau i’r tîm a achubodd ei fywyd
Mae cyfraddau goroesi o ataliad ar y galon gartref yn isel, ac am bob munud sy'n mynd heibio heb adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) neu ddiffibrilio, bydd y siawns o oroesi yn lleihau hyd yn oed yn fwy.
I Rob Pierce, achubodd CPR a diffibrilio ei fywyd pan fu iddo ddioddef o afreoleidd-dra'r galon, gan arwain at ataliad ar y galon 12 mis yn ôl, a hynny yn ei gartref.
Wrth lwc, roedd gwraig Rob gartref gydag ef, a pherfformiodd CPR nes i’r parafeddygon gyrraedd gyda diffibriliwr. Ar ôl 10 munud, llwyddodd y parafeddygon i ailddechrau ei galon, a chafodd ei ruthro i Uned Gofal Critigol Ysbyty Maelor Wrecsam lle cafodd ei roi mewn coma ysgogedig.
Wrth siarad am ei amser yn yr ysbyty, dywedodd Rob, sydd bellach yn Borthor yn Ysbyty Maelor Wrecsam: “Nid oedd fy nheulu a’n ffrindiau’n gwybod sut y byddwn yn gwella o hyn, ond gyda chymorth y tîm Gofal Critigol gwych, dridiau’n ddiweddarach cefais fy nhynnu allan o'r coma ysgogedig a chefais gefnogaeth gyda fy anadlu.
“Derbyniodd fy nheulu’r gofal a'r gefnogaeth orau ar gyfer trawma corfforol ac emosiynol y gallech ofyn amdano. Arhosais yn y Maelor am bythefnos arall cyn i ICD gael ei osod yn fy mrest, a phan oeddwn yn ddiogel ac yn ddigon iach i fynd adref."
Cyn iddo ddioddef o ataliad ar y galon, roedd Rob yn blastrwr hunangyflogedig am dros 20 mlynedd. Ond, ers i’w fywyd fod yn y fantol, teimlodd fod angen newid arno. Sefydlodd ei deulu dudalen GoFundMe i godi arian ar gyfer ei wellhad, cyn i Rob wneud cais i ddod yn Borthwr ar yr union wardiau lle bu iddo dderbyn ei driniaeth.
Bron i chwe mis i'r diwrnod yn dilyn ei ataliad ar y galon, dechreuodd Rob weithio ar yr union wardiau y bu’n gorwedd arnynt, gan weithio ochr yn ochr â'r timau oedd wedi gofalu amdano. Mae Rob yn parhau i dderbyn gofal dilynol gan y tîm anhygoel ar ffurf galwadau dilynol, cyfarfodydd a rhaglen adsefydlu.
I ddiolch i’r Uned Gofal Critigol am eu gofal a’u cefnogaeth, dringodd Rob a’i gydweithwyr newydd yn y Tîm Porthorion i fyny’r Wyddfa, ac maen nhw wedi codi £2,200 a fydd yn mynd tuag at yr ardd synhwyraidd newydd, a rhai ychwanegiadau i’r cleifion a'u teuluoedd.
“Roedd criw wedi bod yn trafod am ddringo i fyny’r Wyddfa, a gofynnon nhw a fyddai hynny o ddiddordeb i mi. Roedd yn deimlad eithaf brawychus yn y lle cyntaf, ond ar ôl i mi siarad gyda’r cardiolegydd a’r tîm adferiad, fe wnaethon nhw fy sicrhau na ddylai fod gennyf unrhyw gyfyngiadau ar yr hyn rwy'n gallu ei wneud ac nid oedden yn gweld unrhyw reswm pam na allwn ymuno â nhw.
“Rydym ni i gyd yn cael gweld sut mae'r Uned Gofal Critigol mor bwysig i gleifion, eu teuluoedd a'u ffrindiau agosaf, sy'n delio gyda’r trawma o gael rhywun sy’n annwyl iddyn nhw yn yr uned. Mae'n golygu’r byd i mi allu rhoi rhywbeth yn ôl i'r tîm a achubodd fy mywyd." meddai Rob.
I gefnogi’r Uned Gofal Critigol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, cliciwch yma.