Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Cyhoeddi enillwyr Caredigrwydd ac Empathi!

Diolch i gymynrodd gan gyn aelod staff, cynhaliwyd y Gwobrau Caredigrwydd ac Empathi blynyddol i ddathlu'r Timau Anabledd Dysgu am yr ail flwyddyn yn olynol.

Bwriad y Gwobrau, a sefydlwyd yn 2022, yw cydnabod staff sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir ganddynt drwy fod yn llawen a rhadlon wrth ymwneud â defnyddwyr ein gwasanaeth a chydweithwyr.

Roedd darllen yr enwebiadau a dderbyniwyd eleni yn cynhesu’r galon ac yn dangos gymaint o garedigrwydd ac empathi sydd i’w weld yn feunyddiol yn y Tîm Anableddau Dysgu.

Dywedodd Jane Williams, Rheolwr Gwasanaethau Cymorth Therapiwtig ym Mryn y Neuadd yn y gwobrau eleni: “Rydym yn hynod o falch bod y gwobrau yn ôl, mae’n galondid mawr clywed pobl yn siarad am y gwobrau ac i glywed enwebiadau’r enillwyr yn y seremoni.

“Heb os mae hyn yn dangos ein bod ni'n dîm anhygoel a’n bod yn mynd yr ail filltir dros bob un o'n defnyddwyr gwasanaeth a’n cydweithwyr, hyd yn oed mewn cyfnod anodd. Rydw i mor ddiolchgar i fod yn rhan o’r tîm ac rydw i mor falch o bob enillydd, maen nhw wir yn haeddu’r clod.”

Rhennir y Gwobrau yn dri chategori, gydag un enillydd ym mhob un:

- Gwobr Caredigrwydd ac Empathi Cleifion Mewnol - Dr Jessica York, Seiciatrydd Ymgynghorol

- Gwobr Caredigrwydd ac Empathi Cymunedol - Danielle Aitken, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd

- Gwobr Caredigrwydd ac Empathi Preswyl Cymunedol – Deirdre O’Leary, Rheolwr Prosiect

Llongyfarchiadau i'r enillwyr a’r enwebeion i gyd eleni! Cofiwch gadw llygad am rownd nesaf enwebiadau ar gyfer y gwobrau yma ar ddechrau 2024!

Os ydych yn dymuno cefnogi’r Tîm Anableddau Dysgu ar draws BIPBC, gallwch gyfrannu yma.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here