Codi miloedd o bunnoedd ar gyfer gardd synhwyraidd newydd
Mae’r tîm gofal critigol yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi codi’r swm anhygoel o £32,000 i ddatblygu gardd synhwyraidd hyfryd i gleifion a’u teuluoedd.
Mae angen i'r tîm godi £50,000 i gwblhau'r ardd, ac yna bydd yr ardal a ddyluniwyd yn bensaernïol yn darparu seibiant lleddfol a chroesawgar o amgylchedd mwy ffurfiol yr ysbyty.
Bydd yr ardd, a ddyluniwyd yn bensaernïol, yn fuan yn darparu seibiant hamddenol a chroesawgar o amgylchoedd mwy ffurfiol yr ysbyty.
Bydd staff gweithgar hefyd yn gallu eistedd yn yr ardd, a ddyluniwyd yn arbennig, yn ystod eu seibiau o’r gwaith.
Bydd yr ardd yn cael ei datblygu ar sgwâr concrit ger Uned Gofal Dwys Maelor Wrecsam.
Yn ogystal â chynnwys planhigion a fydd yn ysgogi'r synhwyrau megis y golwg, arogl, cyffyrddiad a sain, bydd yr ardd yn cynnwys llawer o fannau eistedd a llwybrau sy'n ddigon llydan ar gyfer gwelyau o’r Uned Gofal Dwys.
Mae’r arian a godwyd hyd yma wedi dod o sawl ddigwyddiad codi arian arloesol megis gwthio gwelyau drwy strydoedd Wrecsam, casgliadau bwced yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam, amrywiaeth o farathonau, rafflau a rhoddion gan gyn-gleifion caredig a’u teuluoedd. Ar hyn o bryd mae her rithiol o gerdded o gwmpas y byd! Codwyd £900 eisoes.
Daeth y syniad y tu ôl i’r ardd synhwyraidd gan Jayne Galante, Uwch Nyrs Gofal Critigol, sydd wedi gweithio yn Maelor Wrecsam ers 1993.
Mae hi a’i thîm wedi bod yn codi arian ers 2018, ac yn dweud bod ganddyn nhw dipyn o ffordd i fynd o hyd gan ei bod hi eisiau’r ardd orau posib i’w chleifion, eu hanwyliaid a’r staff.
“Rwy’n teimlo y byddai gardd synhwyraidd o fudd enfawr i gleifion, yn enwedig gan fod rhai yma am gyfnod mor hir ac yn cael eu hamddifadu o unrhyw normalrwydd,” meddai Jayne.
“Mae astudiaethau wedi dangos bod treulio amser mewn gardd a gyda byd natur yn gwella lles seicolegol claf.
Aeth ymlaen i ddweud: “Mae hefyd yn golygu y bydd lle hyfryd ac addas i aelodau iau o’r teulu fynd iddo, ac i aelodau staff a allai fod angen 10 munud o lonydd.
“Mae sawl person sydd wedi dod i ddiwedd eu hoes wedi gofyn am gael mynd allan am un tro olaf, ac ar hyn o bryd does unman addas iddyn nhw fynd ar wahân i fynedfa’r ysbyty. Unwaith y bydd yr ardd hon wedi gorffen bydd lle i fynd, ac yn amlwg bydd preifatrwydd.”
Ychwanegodd Jayne: “Hoffwn ddiolch i fy nhîm am gefnogi’r fenter hon. Rwy’n siŵr fy mod wedi bod yn eu gyrru’n wallgof dros y blynyddoedd diwethaf gyda’r holl swnian, ond diolch i’r holl bobl sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn.
“Hefyd mae’n wych bod Elusen GIG Gogledd Cymru, Awyr Las, yn ein cefnogi – bydd y freuddwyd yn cael ei gwireddu’n fuan!”
Y flwyddyn nesaf bydd 75 mlynedd ers sefydlu’r GIG, felly mae’r tîm yn benderfynol o gyrraedd eu nod o £50,000 erbyn pen-blwydd y GIG ar 5 Gorffennaf!
Os ydych chi eisiau cefnogi'r tîm i godi arian, ewch i yma.