Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Cefnogaeth #TîmIrfon i ariannu capiau oer ar gyfer cleifion canser

Mae colli gwallt yn un o sgil-effeithiau amlycaf canser, ac yn un o'r sgil-effeithiau mwyaf torcalonnus, ond gall gwisgo cap oeri (sydd hefyd yn cael ei alw'n 'system oeri croen y pen') helpu pobl i gadw rhywfaint o'u gwallt, ac mewn rhai achosion, i gadw eu gwallt i gyd.

Mae #TîmIrfon, sef cronfa sy'n rhan o Awyr Las, Elusen y GIG yng Ngogledd Cymru, yn codi arian i brynu cap oeri newydd ar gyfer Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd i helpu cleifion sy'n derbyn triniaeth ar gyfer canser. Cost y capiau oeri yw rhyw £18,000 yr un.

Er mwyn helpu i godi arian, bydd digwyddiad nofio arbennig #TîmIrfon yn dychwelyd ddydd Sadwrn 10 Medi, lle bydd nofwyr o bob rhan o'r DU yn cymryd rhan mewn digwyddiad nofio dwy filltir o Bier Biwmares i Bier Bangor.

Yn 2019, gwnaeth 42 o nofwyr gymryd rhan a daeth dros 400 o gefnogwyr i Bier Bangor i roi hwb iddyn nhw! Os ydych yn awyddus i gael her a'ch bod yn mwynhau nofio mewn dŵr agored, beth am gymryd rhan? Cliciwch YMA i gofrestru heddiw!

Dawn Owen, o Fenllech, fydd un o'r sawl a fydd yn awyddus i roi hwb i'r nofwyr. Mae'r ddynes 32 oed wedi bod yn defnyddio cap oeri ers dechrau ei thriniaeth gemotherapi ar gyfer canser y fron.

"Am yr ychydig funudau cyntaf, mae'n boenus, ond rydw i'n teimlo'n iawn," meddai Dawn, sy'n derbyn triniaeth ar Ward Alaw, yn Ysbyty Gwynedd.

"Mae'n oer iawn am ddau funud, ond bydda' i'n eistedd o dan flanced gynnes a fydda' i ddim hyd yn oed yn meddwl am y cemo, a dydw i ddim yn poeni am fy ngwallt.

"Mae defnyddio'r cap oeri wedi helpu gyda fy straen, gan fy mod i'n gwybod bod fy ngwallt yn mynd i fod yno."

Aeth yn ei blaen i ddweud: "Rydw i'n falch o ddweud nad ydw i wedi colli gwallt o gwbl, er mai dyma'r seithfed tro i mi dderbyn triniaeth gemotherapi."

Ychwanegodd Ms Owen: "Mae cadw fy ngwallt wir wedi helpu gyda fy iechyd meddwl, mae'n golygu fy mod i'n dal i edrych fel fi fy hun ac mae hynny'n golygu popeth i mi. Mae'n wych bod #TîmIrfon yn codi arian i brynu capiau oeri newydd fel y gall mwy o bobl fanteisio arnynt."

Dywedodd Manon Williams, Metron yr Uwch Adran Ganser yn Ysbyty Gwynedd: "Mae'r capiau oeri wedi caniatáu i lawer o gleifion amddiffyn eu preifatrwydd. Maen nhw’n caniatáu i fenywod gadw eu hunanbarch a'u hymdeimlad o les yn ystod cyfnod anodd iawn.

"Bydd sicrhau bod gennym ni gapiau oeri mwy diweddar ac effeithiol yn lle'r rhai blaenorol yn bositif iawn i'n cleifion."

Ychwanegodd: "Mae'r capiau’n hynod boblogaidd ymysg ein cleifion, yn enwedig merched iau. Ni ellir tanbrisio effaith seicolegol colli gwallt ar glaf.

"Rydw i'n gobeithio y bydd pobl yn cefnogi digwyddiad nofio #TîmIrfon ar 10 Medi. Bydd yr arian a godir trwy'r digwyddiad nofio hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion sy'n awyddus i ddefnyddio cap oeri."

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here