Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Raffl AMU yn codi cannoedd at weithgareddau i gleifion

Fe wnaeth Gwasanaeth Arosiadau Byr yr Uned Feddygol Acíwt (AMU) yn Ysbyty Maelor Wrecsam drefnu raffl ar gyfer staff, ffrindiau a theuluoedd i helpu i godi arian at weithgareddau a chyfleusterau i gleifion.

Gwerthwyd mwy na 500 o docynnau raffl yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig, gan godi cyfanswm enfawr (£785) er budd r uned!

Dywedodd Clare Roberts, Uwch Nyrs Gwasanaeth Arosiadau Byr yr AMU, a drefnodd y raffl: “Roeddem yn awyddus i helpu i godi arian y Nadolig hwn at weithgareddau a chyfleusterau i gleifion. Bydd llawer o gleifion sy'n dod yma, yn enwedig cleifion sydd â dementia, yn cael trafferth canfod gweithgareddau i'w gwneud, felly rydym yn dymuno sicrhau fod gennym gyflenwad o lyfrau posau a beiros a gweithgareddau eraill y gallant eu gwneud yn y ward.

“Nid oes gennym ni bethau bychain megis drychau i'w defnyddio gan gleifion pan fyddant yn eillio a theclynnau rheolaeth o bell i ddefnyddio'r setiau teledu, ac mae'r pethau hyn oll yn helpu i wella profiadau cleifion pan fyddant yn aros yma.

“Mae'r raffl wedi bod yn destun cyffro sylweddol i'r staff, ac rydym wedi casglu swm enfawr a wnaiff ein helpu i brynu'r pethau hyn er budd cleifion. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i'r staff, felly mae'n braf cynnig rhywbeth y gallant edrych ymlaen ato, a sicrhau manteision i'n cleifion hefyd.”

Cafwyd y gwobrau gan staff yr Uned, ac roeddent yn cynnwys basgedi o siocledi a diodydd, setiau sba, talebau teithio a llawer iawn mwy.

Fe wnaeth Linda Amonoo, sy'n nyrs yng Ngwasanaeth Arosiadau Byr yr AMU, ennill y brif wobr, sef Coeden Nadolig tocynnau loteri gwerth £50!

Os hoffech gefnogi Gwasanaeth Arosiadau Byr yr AMU yn Ysbyty Maelor Wrecsam, gallwch gyfrannu ar-lein yma.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here