Yn awr, rwy'n clywed am nifer o brosiectau eraill a allai wella gofal a thriniaeth yn sylweddol, rwyf wir eisiau gallu eu helpu.
Calonnau a Meddyliau Nel Del
Ymunwch â mi, Nel Del, ar fy ymgais i wneud y Nadolig hwn yn fwy arbennig ar gyfer rhai o'r cleifion mwyaf bregus yng Ngogledd Cymru, ac yn gofiadwy iawn i rai o'n staff nyrsio a chefnogi gwych sydd eisiau dim byd mwy na gwneud bywydau eu cleifion yn fwy llon y gaeaf hwn!
Rwyf eisiau rhoi'r cyfle i holl staff rheng flaen y GIG i roi cynnig ar syniadau newydd a gwahanol i ddechrau gwneud pethau yn wahanol er lles cleifion. Drwy gydol fis Tachwedd a Rhagfyr, anogir staff y GIG o ar draws Gogledd Cymru i wneud cais am gynllun grant Calonnau a Meddyliau am grantiau bach o hyd at £1,000. Bydd popeth y bydd y cynllun grantiau Calonnau a Meddyliau yn ei gefnogi yn mynd y tu hwnt i beth gall y GIG ei ddarparu, ac mae'n dod gyda'r sicrwydd y bydd yn creu newid positif ar gyfer cleifion lleol.
Y llynedd, diolch i rodd hael gan gwmni lleol, Grŵp Cynefin, a theulu lleol hael iawn, mi wnes i lansio cynllun grantiau cyntaf Calonnau a Meddyliau. Bu i 52 o aelodau staff rheng flaen y GIG wneud cais am grantiau am hyd at £1,000. I ddechrau, rhoddwyd cyfanswm o £12,530 i 16 o 52 o ymgeiswyr, ac rwyf wedi bod yn codi arian ers hynny i helpu i ariannu'r prosiectau pwysig eraill.
Cynheswch galonnau a lleddfwch feddyliau. Helpwch gleifion lleol y gaeaf hwn. Cefnogwch Gronfa Calonnau a Meddyliau er mwyn helpu'r rhai y mae angen eich cefnogaeth arnynt fwyaf!
Dyma ble gallwch helpu!
Allwch chi gefnogi Cynllun Grantiau Calonnau a Meddyliau y Nadolig hwn trwy wneud addewid neu rodd isod?
Pam ddylech gefnogi Cronfa Calonnau a Meddyliau?
Mae’n syml! Byddwch yn helpu'r unigolion yn eich cymuned leol sydd angen eich cymorth fwyaf.
Hefyd:
- Bydd pob rhodd dros £200 i Gronfa Calonnau a Meddyliau yn derbyn diolch ar fy nhudalennau cyfryngau cymdeithasol, a bydd logo neu enw eich cwmni yn cael ei gynnwys ar ein bwrdd rhoddion arbennig Calonnau a Meddyliau
- Mi ddo i i'ch gweithle i ddiolch i chi- ia fi, Nel Del, os ydych yn rhoi rhodd o dros £500
- Anfonwn i diweddariad atoch yn y Flwyddyn Newydd yn dweud wrthych yn union beth mae eich rhodd neu hel arian wedi'i ariannu os ydych chi'n rhoi dros £200
Yn bwysig, byddwch yn gallu penderfynu a yw eich rhodd yn cefnogi prosiectau pobl hŷn, pobl ifanc, gofal canser, iechyd meddwl, a phrosiectau iechyd rhyngwladol neu faes gofal iechyd arall. Byddwch hefyd yn cael gwybod yn union beth mae eich rhodd yn ei gefnogi: Efallai mai offer newydd y bydd, gwell cyfleusterau, rhaglenni ymchwil ac addysg ychwanegol, prosiectau therapïau cyflenwol neu gelf.
Diolch i chi am eich ystyriaeth hael. Bydd eich cymorth gwych yn helpu ein cleifion gwael!