Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Cystadleuaeth Dylunio Cacennau i Blant

Cyflwyno'ch dyluniad cacen yma am gyfle i ennill Kindle, ac i'ch dyluniad gael ei wneud yn gacen go iawn gan Richard Holt, un o gogyddion patisserie gorau'r byd!

Cystadleuaeth dylunio cacen i blant yn ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod!

Telerau ac Amodau

  • Derbynnir lluniau / dyluniadau ar-lein yn unig (ni ellir cyflwyno fersiynau papur)
  • Gellir defnyddio unrhyw gyfrwng -arlunio neu baentio, collage neu ddylunio ar y cyfrifiadur, caiff y plentyn ddewis.
  • Y thema yw “Blwyddyn Ryngwladol y Nyrs a'r Fydwraig” - mae hyn yn golygu y gall y dyluniad fod yn unrhyw beth i'w wneud â nyrsys, bydwragedd a'r rôl hanfodol y mae'r bobl ryfeddol hyn yn ei chwarae yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS), yn yr ysbytai a'n cymunedau!
  • Gall unrhyw un 15 oed ac iau yn yr ardal a wasanaethir gan BIPBC (sydd yn cynnwys Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) gyflwyno llun i'w ystyried.
  • Mae aelodau teulu Tîm Cefnogi Awyr Las wedi eu heithrio rhag cystadlu
  • Rhaid cyflwyno ceisiadau trwy wefan Awyr Las sef www.awyrlas.org.uk/kids-cake-c...
  • Mae hon yn gystadleuaeth hwyliog wedi'i hanelu at blant 15 oed neu'n iau. Mae angen caniatâd rhiant neu warchodwr ar bob plentyn i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
  • Rhaid cyflwyno’r gwaith trwy'r sianel swyddogol. Rhaid ateb pob cwestiwn a chyflawni'r holl ofynion mynediad eraill.
  • Rhaid derbyn pob cais erbyn hanner nos dydd Iau 2 Gorffennaf 2020 - ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn gymwys.
  • Bydd pob cais a dderbynnir cyn y dyddiad cau yn cael ei roi mewn albwm ar Facebook ar dudalen Facebook Awyr Las
  • Penderfynir ar y 3 cacen orau trwy bleidlais gyhoeddus, gydag 1 ymateb (fel, ‘like’ ‘love’, haha, wow) ar y llun o'r gacen yn cyfri fel un bleidlais
  • Bydd y 3 llun gyda'r nifer uchaf o bobl wedi’i hoffi am 23:59:59 ar ddydd Sul 12 Gorffennaf 2020 yn cael eu cyflwyno ar gyfer y feirniadaeth derfynol
  • Yn yr achos annhebygol fod dwy desien yn gyfartal, bydd nifer y rhai sydd wedi rhannu (‘share’) lluniau o'r cacennau sy’n gyfartal am y 3ydd lle yn cael ei ystyried, gyda'r gacen a gafodd ei ‘rhannu’ fwyaf yn mynd trwodd i'r rownd derfynol
  • Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y panel beirniadu sef aelodau o BIPBC A Richard Holt o Felin Llynon - bydd pob aelod yn cael un bleidlais
  • Y llun sy'n derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau gan y panel beirniaid yw'r enillydd
  • Os bydd lluniau sydd yn gyfartal, bydd y rhai gyda'r nifer uchaf o bleidleisiau yn cael eu rhoi mewn het arbennig a bydd Richard Holt o Melin Llynon yn dewis yr enillydd ar hap.
  • Bydd y dylunydd cacennau buddugol yn derbyn Kindle a bydd eu llun yn cael ei ail-greu fel cacen go iawn gan Richard Holt o Melin Llynon, a'i roi fel gwobr i'r enillydd.
  • Bydd y gacen olaf mor debyg i’r llun gwreiddiol ag sy'n ymarferol - efallai y bydd yn rhaid i Richard Holt wneud addasiadau bach er mwyn dod â'r llun yn fyw a thrawsnewid y llun yn gacen flasus
  • Cadwch eich cadarnhad e-bost fel prawf mynediad
  • Nid yw Awyr Las yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau sy'n cael eu colli, eu difrodi, ac na ellir eu darllen neu ble na ellir adnabod yr enillydd oddi wrthynt, neu am unrhyw fethiant technegol neu ddigwyddiad arall all beri ymyriad neu fethiant i’r gystadleuaeth.
  • Mae'n ofynnol i'r enillydd gydweithredu gyda hawl Awyr Las i gyhoeddi eu buddugoliaeth fel y tybir yn addas ganddynt
  • Os bydd gwall, beth bynnag y rheswm am hynny, boed yn gamgymeriad argraffu neu fel arall ac yn amlwg neu beidio, sy'n effeithio ar y gystadleuaeth mewn unrhyw ffordd, mae'r trefnwyr yn cadw'r hawl i weinyddu raffl fel pe na bai'r gwall wedi digwydd. Pan fydd y trefnwyr yn ystyried ei bod yn briodol a / neu'n ddichonadwy, bydd Awyr Las yn hysbysu ymgeiswyr am y gwall
  • Os nad yw Awyr Las yn gallu cysylltu â’r enillydd ac na fydd y wobr yn cael ei hawlio am dri mis yn dilyn ymgais gyntaf Awyr Las i hysbysu'r enillydd, gall Awyr Las roi'r wobr fel yr ystyrir ganddynt yn briodol, gan gynnwys ail-gynnig y wobr mewn cystadleuaeth yn y dyfodol neu drwy raffl
  • Bydd methiant i gydymffurfio ag unrhyw un o'r rheolau hyn yn arwain at gael eich diarddel. Mae Awyr Las yn cadw'r hawl i ddiarddel unrhyw gais yn unol â’u disgresiwn llwyr hwy.
  • Bydd penderfyniad y Beirniaid yn derfynol ac ni fydd modd herio’r penderfyniad
  • Hysbysir yr enillwyr dros y ffôn neu yn ysgrifenedig ar, neu cyn dydd Mercher 22 Gorffennaf 2020 .Bydd Staff Cefnogol Awyr Las yn trefnu casglu neu ddanfon y wobr i’r enillydd gan ddilyn canllawiau llym cyfredol y Llywodraeth.
  • Ni fydd unrhyw arian parod neu ddewis arall yn lle'r wobr a gynigir ac ni ellir trosglwyddo gwobrau.

Ffurflen gais Gymraeg yn dod yn fuan!

    Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

    Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

    Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here