Mae buddsoddi mewn ymyriadau cynhwysol (hygyrch i bawb) ynghyd ag adnoddau ychwanegol wedi'u targedu at y rhai mwyaf anghenus a theuluoedd sy'n agored i niwed yn gweithio, ac mae hefyd yn gost-effeithiol. Mae pob £1 a fuddsoddir yn y blynyddoedd cynnar yn arbed gwario £1.30 - £16.80 yn ddiweddarach.
Pasg 2021: Buddsoddwch yn Fy Nyfodol
Buddsoddwch yn Fy Nyfodol
Helpwch ni i ddod o hyd i'r holl wyau Pasg i gefnogi mamau beichiog a'u babanod ledled Gogledd Cymru.
Mae 'Buddsoddwch yn Fy Nyfodol' yn ymgyrch codi arian ledled Gogledd Cymru sydd â'r nod o gefnogi a hyrwyddo'r 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn (o’r adeg pan gaiff ei genhedlu tan ei fod yn 2 flwydd oed).
Rydym am i famau beichiog a'u babanod fod yn hapus, yn iach ac yn teimlo’n dda, yn gorfforol ac yn feddyliol (Cyflwr Iechyd Plant: Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant - 2020). Trwy fuddsoddi mewn ehangu a gwella gwasanaethau, y gefnogaeth a’r cyfleoedd i famau, babanod a theuluoedd yn ystod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plant byddwn yn darparu'r dechrau gorau ar gyfer eu dyfodol.
Pam fod y 1,000 diwrnod cyntaf mor bwysig?
Mae cyfleoedd bywyd, iechyd a lles ein plant yn y dyfodol yn cael eu dylanwadu gan yr amgylchiadau a'r profiadau a gânt cyn eu geni a thrwy gydol eu plentyndod. Y 1000 diwrnod cyntaf, gan ddechrau ychydig cyn beichiogi babi, ac yn parhau trwy’r beichiogrwydd a hyd at ddwy flwydd oed yw'r pwysicaf.
Pam fod angen i ni godi arian i gefnogi'r 1,000 diwrnod cyntaf?
Mae beichiogrwydd, genedigaeth a’r blynyddoedd cynnar yn amseroedd arbennig i feithrin iechyd ein plant a rhoi sylfeini cadarn iddynt ar gyfer bywyd iach yn y dyfodol (Cyflwr Iechyd Plant, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant - 2020)
Mae rhai o'r ymyriadau effeithiol yn gynnar yn natblygiad plant yn cynnwys:
- Cefnogaeth i famau cyn, yn ystod ac ar ôl genedigaeth
- Cyngor ar fwydo o’r fron a maeth
- Cefnogaeth magu plant
- Mynediad at wasanaethau iechyd a gofal plant ac addysg gynnar
Bydd eich cyfraniad yn helpu i gefnogi’r 1,000 diwrnod cyntaf ac yn arwain at ganlyniadau iechyd a lles gwell i famau a babanod. Bydd hyn yn hyrwyddo cydraddoldeb, gan gefnogi’r teuluoedd a’r cymunedau sydd ei angen fwyaf.
Yng Ngogledd Cymru, ar gyfartaledd, mae 6,600 o fabanod yn cael eu geni bob blwyddyn ac rydym am roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn i wella eu cyfleoedd yn y dyfodol. Diolch am eich cefnogaeth.