Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Marathon Rhithiol Eryri - gwybodaeth i unigolion

Rydych chi wedi sicrhau eich lle - nawr mae'n bryd dechrau codi arian!

Diolch am fod yn rhan o'r Marathon Rhithiol Eryri cyntaf erioed

Diolch eto am gymryd rhan ym Marathon RHITHIOL Eryri ac am addo casglu oddeutu £50 dros eich achos da o'ch dewis, i wneud gwahaniaeth i gleifion yng Ngogledd Cymru. Rydym am i'ch profiad o godi arian fod mor hwyliog a hawdd â phosibl felly rydym wedi darparu rhywfaint o ganllawiau codi arian i chi, i'ch helpu i ddechrau arni.

Oeddet chi'n gwybod?

2020 yw Blwyddyn y Nyrs a'r Fydwraig. Beth am helpu i ddathlu hynny trwy redeg mewn het nyrs neu mewn gwisg ffansi ar thema'r GIG? Mae’r ras yn digwydd bod yn ystod wythnos Calan Gaeaf – felly efallai yr hoffech wisgo gwisg Calan Gaeaf erchyll yn lle?

Eich tudalen codi arian

Rydym wedi sefydlu ymgyrch arbennig ar JustGiving fel y gall pob un o'n rhedwyr gwych Marathon Eryri gysylltu eu tudalennau codi arian iddi. Bydd eich cyfansymiau unigol i gyd yn cyfrif i gyfanswm cyffredinol yr ymgyrch.

Ewch i'r ymgyrch nawr: https://www.justgiving.com/campaign/eryrivirtual

I sefydlu'ch tudalen, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

  • Cliciwch ar y botwm "Start Fundraising"
  • Cliciwch "Doing your own thing (nid oes categori Marathon Eryri i'w ddewis o dan "organised event")
  • Mewngofnodwch neu Gofrestru

Pan ofynnir ichi roi eich stori, efallai yr hoffech ddefnyddio peth o'n geiriau a awgrymir isod:

"Rwy'n rhedeg Marathon RHITHIOL Eryri eleni ac, yn ogystal â gwneud hyn i gadw'n heini ac yn iach, rwy'n codi arian i gefnogi [ACHOS], sy'n agos at fy nghalon. Bydd yr arian rwy'n ei godi yn helpu i gefnogi cleifion a'u teuluoedd, ac yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gall y Gwasanaeth Iechyd ei ddarparu.

"Trwy'r 400 cronfa wahanol mae Awyr Las, Elusen Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn ysbytai ac mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru."

Nawr mae'n bryd cynnwys eich stori eich hun â pham rydych chi'n cymryd rhan yn yr her hon! Efallai yr hoffech gynnwys:

  • Beth wnaeth eich ysbrydoli i gymryd rhan
  • Pwy sy'n cymryd rhan gyda chi, os ydych chi'n rhan o dîm
  • Unrhyw gysylltiad personol sydd gennych â'r achos rydych chi'n codi arian tuag ato

Gallwch weld Deg Awgrym Da JustGiving ar gyfer sefydlu tudalen codi arian yma: https://www.justgiving.com/fundraising/tips/top-10-fundraising-tips

Cofiwch fod tudalennau gyda gwybodaeth, diweddariadau a lluniau ychwanegol yn cael mwy o roddion!

Pwysig: Sicrhewch eich bod yn sefydlu tudalen codi arian sy'n gysylltiedig ag ymgyrch Marathon Eryri ac nid tudalen "Crowdfunding". Nid yw’r tudalennau hynny wedi'u cysylltu â'r elusen sy'n golygu y byddwch chi'n colli allan ar Gymorth Rhodd!

A ydych eisoes wedi sefydlu eich tudalen JustGiving ond heb ei chysylltu â'r ymgyrch? Peidiwch â phoeni - cysylltwch gyda ni a rhoi URL eich tudalen inni a byddwn yn gallu cysylltu popeth mewn dim o dro!

Adnoddau Codi Arian

  • Os credwch y byddwch yn derbyn rhai rhoddion na fydd ar-lein, yna bydd angen Ffurflen Nawdd arnoch - gallwch ei lawrlwytho isod.
  • Edrychwch ar ein Cynorthwyydd Codi Arian, canllaw defnyddiol i'ch helpu chi ar eich taith godi arian. Gwelwch isod.

Angen unrhyw beth arall?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am godi arian, p'un a yw'n syniad neu'n ymholiad cyffredinol, mae croeso i chi gysylltu fel y gallwn eich helpu chi.

Ar ran pawb a fydd yn elwa o'ch cefnogaeth garedig, diolch o galon! Pob lwc gyda'r her a mwynhewch!

Ewch amdani!

Tîm Cefnogi Awyr Las

awyrlas@wales.nhs.uk

01248 384 395


Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here