Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

#TîmIrfon

Cafodd #TîmIrfon ei lansio yn 2014 gan Irfon Williams, Rheolwr Nyrsio CAMHS. Ar ôl dechrau triniaeth ar Uned Alaw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, penderfynodd Irfon ddechrau ymgyrch i godi arian ar gyfer wigiau i eraill sy'n cael cemotherapi ar yr uned.

Wrth i driniaeth Irfon gynyddu, felly hefyd y gwnaeth ei benderfyniad i helpu teuluoedd eraill sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser. Casglodd ei ymgyrch fomentwm, gan gyffwrdd calonnau pobl mewn cymunedau lleol ac ymhellach. Cyn iddo farw o ganser y goluddyn yn 2017, roedd Irfon a nifer o'r cefnogwyr wedi codi dros £150,000 gyda nod penodol i ddarparu gwell gwasanaethau a chyfleusterau i helpu i ddiogelu iechyd meddwl unigolion wrth iddynt wynebu diagnosis canser neu golli aelod o'r teulu.

Mae cymynrodd Irfon yn dal yn fyw, ac mae ei wraig Becky bellach yn goruchwylio #TîmIrfon ochr yn ochr â Manon, Metron o wasanaethau canser. Gyda'i gilydd, mae Becky a Manon, yn gweithio'n agos gyda staff y GIG a gwirfoddolwyr ymroddedig a chefnogwyr o bob oed, yn sicrhau bod rhoddion a roddir i #TîmIrfon yn parhau i helpu pobl leol yn y ffordd yr oedd Irfon bob amser wedi dymuno iddynt wneuda bod pobl leol yn gallu parhau i fwynhau digwyddiadau a gweithgareddau codi arian sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac sy'n hyrwyddo hwyl, chwerthin ac ysbryd tîm - yn union fel bwriad Irfon pob amser.

Donate to #TîmIrfon

Donor Details

How much would you like to donate?

£

Where would you like your donation to go?

Let us know if you'd like your donation to be given to a specific Ward or Service

Donate in memory of someone?

Please include your relation to this person (e.g. Father / Mother / Friend).

Card Details

Loading…

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here