Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Cam Wrth Gam I CAN

Goroeswr Hunanladdiad yn dathlu Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd gyda phle emosiynol i bobl eraill mewn gofid

Mae merch a chafodd ei hachub o ymgais i gyflawni hunanladdiad gan ddieithryn a oedd yn pasio yn dweud ei bod yn hanfodol bod pobl eraill sydd mewn argyfwng yn sylweddoli y gallant wella, gyda'r gefnogaeth gywir.

Mae merch a chafodd ei hachub o ymgais i gyflawni hunanladdiad gan ddieithryn a oedd yn pasio yn dweud ei bod yn hanfodol bod pobl eraill sydd mewn argyfwng yn sylweddoli y gallant wella, gyda'r gefnogaeth gywir.

Malan WilkinsonMae Malan Wilkinson o Gaernarfon yn dathlu Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ar 10 Medi drwy annog pobl eraill sy'n teimlo nad yw bywyd yn werth byw i estyn allan i bobl y gallent ymddiried ynddynt fel y cam cyntaf ar y daith i wellhad.
 
"Does dim un ateb i ddatrys pob argyfwng" eglurodd. "Ond drwy'r gefnogaeth gywir a chael sgyrsiau pwysig gall pobl ddod o hyd i atebion a all eu helpu drwy gyfnodau anodd a chyfnodau o drallod yn eu bywydau
 
"Mae'n bwysig iawn bod pobl sy'n cael trafferth yn estyn allan i bobl y gallent ymddiried ynddynt. Mae angen i bobl wybod na fydd eu teimladau'n diflannu dros nos. Drwy gymryd un cam ar y tro a rhoi un droed o flaen y llall mi fyddant yn llwyddo."
 
Mae'r ferch 32 mlwydd oed yn rhoi sylwadau o sefyllfa o brofiad byw, wedi iddi gael ei hun mewn argyfwng ar sawl achlysur yn ystod ei brwydr pum mlynedd gyda salwch meddwl.
 
Ym mis Mehefin 2017, roedd ond eiliadau i ffwrdd o geisio diweddu ei bywyd, ond fe helpodd dieithryn a oedd yn pasio gan helpu i achub ei bywyd. Treuliodd Malan ddau fis yn gwella yn Uned Seiciatrig Hergest, Ysbyty Gwynedd, dyna oedd ypedwerydd tro iddi gael ei derbyn i ysbyty mewn cynifer o flynyddoedd.
 
Ers hynny, mae wedi cyhoeddi llyfr - 'Rhyddhau'r Cranc' - mewn ymgais i helpu eraill sy'n cael trafferth gyda salwch meddwl. Dim ond ychydig wythnosau ar ôl lansio'r llyfr ym mis Mehefin, unwaith eto roedd Malan wedi cyrraedd man tywyll, a wynebodd frwydr fesul awr gyda meddyliau am gyflawni hunanladdiad.

"Roeddwn yn teimlo'n deimladwy iawn ac roedd llawer o bethau'n mynd ymlaen yn fy mywyd. Un bore fe darodd mi fel switsh yn cael ei droi ymlaen. Roeddwn mewn lle ofnadwy ac nid oeddwn yn teimlo fy mod am fyw wedi hanner dydd y diwrnod hwnnw.
 
"Ond fe wnaeth dwy awr fyd o wahaniaeth ac erbyn diwedd y diwrnod hwnnw roedd gennyf gynllun yn ei le gyda fy Nyrs Seiciatrig Cymuned. Roeddwn yn gwybod bod yr ateb am fod yn un hir ac yn un a oedd yn rhaid i mi fuddsoddi llawer o fy hun ynddo."
 
Yn benderfynol o beidio dychwelyd i'r ysbyty, gosododd Malan a'i Nyrs Seiciatrig Cymuned her uchelgeisiol i gwblhau taith gerdded 100km i wellhad, fe drechodd hyn yn ddiweddar, gan godi dros £1,000 i ymgyrch iechyd meddwl Awyr Las,  Elusen GIG Gogledd Cymru – I CAN.
 
"Roedd yn anodd iawn gan fy mod mewn lle drwg. Roedd gwneud pethau normal fel brwsio fy ngwallt a brwsio fy nannedd yn enfawr. Nid wyf yn rhywun sydd wedi bod yn gwneud ymarfer corff yn rheolaidd ac roedd cerdded 5km yn ymddangos yn amhosibl.
 
"Mae fy Nyrs Seiciatrig Cymuned wedi bod yn wych ac mae'n codi ofn arnaf i feddwl ble y byddwn hebddi. Edrychodd ar beth oedd yn bwysig i mi ac roedd ganddi'r creadigrwydd i feddwl y tu allan i'r bocs, yn hytrach na fy anfon i'r ysbyty. Rwyf wir wedi elwa o'r dull pwrpasol hwn oherwydd nid yw dull sy'n gweddu i bawb at ofal iechyd meddwl yn gweithio i bawb.
 
"I ddechrau roedd yn her er mwyn i mi ddod drwy'r argyfwng roeddwn ynddo, ond mae wedi bod yn fwy na hynny hyd yn oed. Mae wedi bod am gynnal a byw bywyd yr wyf eisiau ei fyw ac y gallaf ei fyw. Y peth gorau yw ei fod wedi newid fy agwedd."
 
"Wrth edrych yn ôl ar ble roeddwn chwe wythnos yn ôl ni fuaswn byth wedi gallu dychmygu bryd hynny y buaswn yn gallu cyrraedd y pwynt rwyf arno heddiw."

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here