Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Rhowch her i chi’ch hunan i gyflawni 10,000 o gamau y diwrnod!

Beh am gymryd rhan mewn her iechyd a lles ryfeddol dros 100 niwrnod o 1 Medi 2021 – 9 Rhagfyr 2021. Byddwch hefyd yn casglu arian ar gyfer maes gofal iechyd sy'n agos at eich calon, ac er budd Awyr Las, eich elusen GIG yng Ngogledd Cymru.

Cyflawnwch 500 milltir dros 100 niwrnod – mae hynny’n 1 miliwn o gamau i gyd.

Cyfrwch eich camau drwy aros yn actif. Mae bob cam yn cyfrif. Beth am redeg, mynd a’r ci am dro, mynd allan am y diwrnod gyda'ch teulu, neu hyd yn oed yn ystod eich tasgau dyddiol - chi sydd i benderfynu!

Trwy gymryd rhan yn yr her epig hon, gallwch ddewis cefnogi unrhyw gronfa gofal iechyd / gwasanaeth / adran ledled Gogledd Cymru trwy Awyr Las, eich elusen GIG yng Ngogledd Cymru. Trwy'r 400 o gronfeydd gwahanol yn Awyr Las gallwch helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich ysbytai ac mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru.

Cofrestrwch heddiw ac rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi'n cyflawni'r un miliwn o gamau gyda ni.


Mae'r cofrestriadau ar gyfer digwyddiad Medi 2021 bellach ar gau. Diolch i bawb a gofrestrodd i gymryd rhan! Bydd cyfleoedd eraill i gymryd rhan yn yr her Un Miliwn o Gamau felly cadwch lygad ar y dudalen hon a sianelau cyfathrebu eraill yr elusen. Fel arall, cofrestrwch eich diddordeb trwy e-bostio awyrlas@wales.nhs.uk a byddwn yn eich hysbysu.

Pam ddylwn i gymryd rhan?

Beth am ddefnyddio'r her wych hon i helpu i godi morâl, gwella ysbryd tîm a helpu i hyrwyddo ffordd iach o fyw a gwella lles? Gallwch gysylltu â ffrindiau o fewn eich tîm ar yr ap a ddyluniwyd yn arbennig i olrhain eich cynnydd, a chreu eich cystadleuaeth eich hun gyda thabl i ddangos pwy sy’n arwain y ffordd!

Bu Bethan, Uwch Brif Nyrs yng Nghanolfan Gardiaidd Gogledd Cymru yn cymryd rhan yn gynharach eleni a gwelodd y buddion ei hun:

“Mae’r her miliwn o gamau yn gwneud i mi fod yn fwy actif, yn enwedig a minnau wedi bod wrth fy nesg drwy’r dydd – rydw i hefyd wedi colli 3 phwys”

A hefyd Sam, Ysgrifenyddes Gardiaidd:

“Rydw i’n mwynhau mynd allan cyn gwaith. Cyn yr her, fyddwn i byth yn gwneud hynny ac rydw i’n teimlo’n fwy ffit, llai blinedig a gallaf ymdopi’n well gyda fy niwrnod gwaith”

Mae Tîm Cefnogi Awyr Las wedi sicrhau * lle digidol am ddim ar gyfer staff BIPBC yn unig. Cofrestrwch ar gyfer y pecyn digidol a bydd cyfri’r camau yn cyfri’ go iawn - a byddwch yn gallu paru eich ffôn symudol gyda’r ap trwy Google Fit neu Apple Health hefyd.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here