Mae fan gofal calon arloesol ar fin cael ei lansio yng ngogledd Cymru
Mae fan gofal calon arloesol ar fin cael ei lansio yng ngogledd Cymru – y 'cyntaf o'i fath' yn unrhyw le yn y DU.
Mae gan y fan bwrpasol offer diagnosteg a fydd yn cael eu defnyddio i asesu cleifion sydd o dan amheuaeth o fod a methiant ar y galon yn nes at eu cartrefi.
Nod y fan newydd sbon, sydd wedi'i hariannu gan elusen GIG Gogledd Cymru, Awyr Las, yw cynnig gwasanaeth yn y gymuned i hwyluso gofal cleifion, gyda'r bwriad o'u hatal rhag gorfod mynd i'r ysbyty.
Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Jo Whitehead, fod "y cyfleuster arloesol hwn yn enghraifft o sut y gall gwasanaethau addasu ar ôl y pandemig, a gwasanaethu cleifion yn eu cymuned."
"Daeth y syniad i mi yn ystod pandemig Covid" meddai Liana Shirley, Uwch-Arbenigwr Delweddu gyda Chlinigau Cymunedol Methiant y Galon.
"Yn ystod argyfwng Covid doedd gennym ni unman i gynnal clinigau, gan fod y gwelyau wedi cael eu rhoi i gleifion Covid. Bu'n rhaid i mi a'm cyd-weithiwr Hannah ddechrau ymweld â'r cartref, lle byddai'n rhaid inni lusgo sganiwr mewn PPE llawn i gartrefi pobl. Roedd yn anodd, ond yn angenrheidiol.
"Awgrymodd fy ngŵr y byddai ein gorchwyl llawer yn haws pe bai gennym fan a allai ddal yr holl offer angenrheidiol yr oedd ei angen arnom i asesu'r claf."
Ar ôl cynnig cynllun busnes yn llwyddiannus i'r Bwrdd Iechyd (BIPBC), gyda chefnogaeth lawn Dr Graham Thomas GPwSI, y goruchwyliwr clinigol mewn Cardioleg, sicrhawyd cyllid diolch i roddion hael gan y gymuned.
Mae'r fan Cardio bellach ar waith a bydd yn ymweld ag ysbytai cymunedol o Ynys Môn i ardaloedd o amgylch Wrecsam, yna i’r at Ddolgellau ac yna ardal Llangollen yn y dwyrain.
"Bydd y cerbyd hwn yn gwneud cymaint o wahaniaeth", ychwanegodd Liana, "o hyn ymlaen bydd gennym rywle i weld cleifion bob amser, hyd yn oed os nad oes gennym y lle yn ein clinigau arferol."
"Gallwn weld cleifion y tu mewn i'w cartref, neu'n llawer agosach at adref, oherwydd mae'n amlbwrpas iawn.
"Heb os, hwn yw’r ffordd ymlaen - gweithio ar y cyd â chlinigau canolfannau. Bydd hyn yn ein galluogi i gadw cymaint o wasanaethau â phosibl yn y gymuned a chael yr hyblygrwydd mewn unrhyw amgylchedd."
Yn dilyn apêl i'r cyhoedd am roddion tuag at y prosiect, derbyniodd Awyr Las gyfraniadau hael, gan gynnwys swm o £1,000 gan yr elusen Teddies fod Loving Care (TLC) sy'n rhan o Elusen Seiri Rhyddion Gogledd Cymru.
Dywedodd Bryan George, Cadeirydd TLC: "Maw sawl ffordd o gael Wil i’w wely! Roedden ni’n gwybod bod pobl yn pryderu am orfod aros am apwyntiadau Ysbyty, felly roeddem yn fwy na pharod i gyfrannu at rywbeth a fydd yn lleddfu ofnau pobl ac yn tynnu sylw at broblemau posibl cyn iddynt waethygu."
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Jo Whitehead: "Rydym yn ddiolchgar i Liana a'i thîm am roi cleifion yn gyntaf yn ystod cyfnod digynsail yn ein bywydau. Mae hon yn enghraifft wych o ofal yn cael ei ddarparu yn nes at adref.
“Bydd y cerbyd hwn nid yn unig yn caniatáu i ni wasanaethu cleifion yn gyflym ond bydd hefyd yn dangos sut mae defnyddio dull gwahanol o ddarparu gwasanaethau yn cyfoethogi'r profiad i'r claf ac yn rhoi hyblygrwydd i staff mewn byd ar ôl y pandemig.
"Diolch i bawb a roddodd i Awyr Las i helpu i wireddu breuddwyd Liana a'i thîm o wireddu'r cerbyd hwn. Mae eich cyfraniadau wir yn gwneud gwahaniaeth."