Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Staff Gofal Dwys yn helpu teuluoedd i gofio anwyliaid

Mae teuluoedd mewn profedigaeth o’r Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Wrecsam Maelor yn cael cynnig blychau profedigaeth er cof am eu hanwyliaid, diolch i’r nyrsys a ofalodd amdanynt.

Mae’r blychau, a grëwyd gan Sarah Anglesea-Davies a Kate Sinclair, dwy Uwch Brif Nyrs, a Hayley Whitehead-Wright, Uwch Nyrs Staff, yn cael eu hariannu drwy Awyr Las: Elusen GIG Gogledd Cymru sy’n helpu teuluoedd trwy eu galar ar ôl colli anwylyd.

Teimlai Sarah a Kate mai creu’r blychau oedd “y peth cywir i’w wneud” ar gyfer teuluoedd, ac maent wedi derbyn adborth hynod gadarnhaol arnynt dros y blynyddoedd.

Dywedodd Sarah, sy’n gweithio ar yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Wrecsam Maelor: “Yn ystod y pandemig, roedd yn anodd iawn i deuluoedd gan nad oeddent yn cael ymweld â’r ward i weld eu hanwyliaid. Gwnaethom ddechrau gwneud ymweliadau cymunedol i deuluoedd mewn profedigaeth, gan gynnig y blychau iddynt. Cawsom gymaint o adborth cadarnhaol gan deuluoedd a bydd rhai yn aml yn eu llenwi ag eitemau personol ac yn eu cadw fel blychau cof.”

Wedi’u cynnwys yn y blychau y mae hadau Forget Me Not, cannwyll, bag organsa ar gyfer cudynnau gwallt, addurn calon lle y mae un hanner yn aros gyda’r claf a’r hanner arall yn mynd gyda’r teulu, a phapur ac inc ar gyfer olion llaw.

Mae’r Uned Gofal Dwys yn gweld tua 12 o farwolaethau mewn mis, felly mae’r blychau hyn yn gwneud gwahaniaeth i nifer fawr o deuluoedd lleol. Ar gyfartaledd, mae’r blychau’n costio £10 yr un ac maent ond yn bosibl oherwydd y rhoddion a wneir i’r Uned Gofal Dwys yn Wrecsam.

Gan siarad am y blychau, dywedodd Kate: “Rydym mor falch o’r hyn yr ydym wedi’i greu i deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid ar yr uned. Mae’n rhywbeth bach ychwanegol y gallwn ei wneud i gefnogi teuluoedd yn ystod eu colled.”

I gefnogi’r Uned Gofal Dwys yn Wrecsam, gallwch wneud rhodd ar-lein yma.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here