Codi swm anhygoel o £20,000 yn Nawns yr Enfys er budd Dawns y Plant, Ysbyty Maelor Wrecsam
Bu 195 o westeion yn ddigon ffodus i fwynhau derbyniad siampên, pryd o fwyd tri chwrs ac adloniant cerddorol nos Wener 18 Mawrth yng Ngwesty Hamdden a Sba Carden Park ar gyfer Dawns Enfys Ward y Plant Ysbyty Maelor Wrecsam.
Cafodd y digwyddiad ei gefnogi gan y prif noddwr, Rhwydweithiau Ynni SP a noddwyr y derbyniad, SG Estates, ochr yn ochr â chefnogwyr eraill. Gwnaeth y band pedwar darn egnïol Big Beat roi eu perfformiad yn rhodd a arweiniodd at bawb yn dawnsio, a gwnaethant hefyd gwblhau set DJ gyffrous yn ddiweddarach y noson honno. Roedd ocsiwn mud hefyd lle'r oedd amrywiaeth o wobrau cyffrous i'w hennill fel eitemau chwaraeon a phêl-droed, ac ocsiwn byw ar y noson gydag eitemau gwych fel dau docyn i fynd i Gyngerdd Dathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines sy'n cael ei gynnal ar ystad Sandringham y Frenhines ym mis Mehefin.
Dywedodd Lisa Harvey, Nyrs Arweiniol Plant sy'n Ddibynnol ar Dechnoleg: "Bu'r noson yn llwyddiant ysgubol a gwnaeth ragori ar bob un o'n disgwyliadau.
"Bu'n rhaid gohirio'r ddawns deirgwaith oherwydd y pandemig, felly roedd yn wych gweld pawb yn cael amser mor dda nos Wener."
Ychwanegodd Ms Harvey: "Bydd yr holl elw'n mynd tuag at brynu offer meddygol ar gyfer y plant a phobl ifanc er mwyn gwella profiad y cleifion ar y ward.
"Hoffwn i ddiolch i bob un o staff y ward a helpodd i drefnu'r digwyddiad, roedd yn ymdrech enfawr ar y cyd, er enghraifft, rhyngddynt, gwnaeth y staff lwyddo i werthu 5,000 o docynnau raffl ac mae hynny'n wirioneddol anhygoel."
Ychwanegodd Liam O’Sullivan – Cyfarwyddwr Rhwydweithiau Ynni SP Manweb:
"Mae'n bleser gennym gefnogi dawns Ward Plant Ysbyty Maelor Wrecsam fel prif noddwr am y trydydd tro yn olynol. Mae Rhwydweithiau Ynni SP yn ymrwymedig i ymgysylltu â'r cymunedau lleol rydym yn eu gwasanaethu ac i'w cefnogi. Rydym yn hynod falch o gyfrannu at godi arian hollbwysig ar gyfer y plant sy'n derbyn triniaeth ar y ward a'u teuluoedd. Mae staff y ward wedi gweithio'n hynod galed dros y ddwy flynedd diwethaf ac rydym mor ddiolchgar i'r cymorth maent yn ei roi i'r gymuned leol."