Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Radio Ysbyty Gwynedd yn ennill gwobr genedlaethol ‘Gorsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’!

Mae gorsaf radio ysbyty lleol Radio Ysbyty Gwynedd wedi’i henwi’n ‘Orsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ gan y Gymdeithas Darlledu Ysbyty (Hospital Broadcasting Association) ar ôl ennill aur yn seremoni Gwobrau Radio Ysbyty Cenedlaethol.

Mewn seremoni ar-lein nos Lun, dyfarnodd beirniaid Gwobrau Radio Ysbyty Cenedlaethol y wobr fawreddog i Radio Ysbyty Gwynedd am eu gorsaf broffesiynol a’u rhaglenni o safon uchel, dywedodd y beirniaid fod “yr orsaf hon (Radio Ysbyty Gwynedd) yn dangos cynhesrwydd, positifrwydd ac yn cynnwys lleisiau gwych ar yr awyr. Mae'r holl amrywiaeth o raglenni y byddech chi'n eu disgwyl yn y cais hwn ac mae ansawdd y cynnwys llafar o'r radd flaenaf. Yr hyn a’n trawodd fwyaf oedd naws broffesiynol gorsaf nad oeddem erioed wedi’i chlywed o’r blaen – roedd y cais yn hyfryd i’w wrando arno.”

Mae Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd, wrth ei fodd gyda chyflawniad yr orsaf: “Rwy’n hynod falch o bawb yn Radio Ysbyty Gwynedd. Mae’r wobr hon yn dyst i’r tîm gwych, ymroddedig a phroffesiynol o wirfoddolwyr sydd gennym yn ein gorsaf.

"Mae pob un o’n cyflwynwyr yn gweithio’n galed i baratoi eu rhaglenni ar gyfer ein cleifion a’n cymuned ehangach ac rydym yn datblygu ein rhaglenni’n barhaus ac yn recriwtio gwirfoddolwyr newydd i’n gorsaf.

"Mae’n gymaint o fraint i ni gael ein cydnabod yn genedlaethol fel gorsaf y flwyddyn. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu holl gefnogaeth."

Elusen genedlaethol yw’r Hospital Broadcasting Association sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo Darlledu Ysbytai yn y DU. Ar hyn o bryd mae dros 170 o orsafoedd radio ysbyty unigol, sy'n cynrychioli 1000au o wirfoddolwyr.

Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi bod darlledu ers 1976 gan ddathlu 45 mlynedd llynedd. Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here