Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Gardd lles newydd diolch i Gynghrair y Cyfeillion

Mae gerddi Ysbyty Bae Colwyn, a fu ar un adeg yn rhai ysblennydd, yn cael eu hadfer a'u trawsnewid yn ardd lesiant er budd cleifion a staff, diolch i haelioni Cynghrair y Cyfeillion yn Ysbyty Bae Colwyn, a grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig.

Mae gardd yr ysbyty wastad wedi bod yn hafan i gleifion a staff gyda'i lawntiau, llwybrau, planhigion a seddi. Mae’r ardd bob amser wedi bod yn rhan bwysig o'r ysbyty, gyda golygfeydd hyfryd y gall staff a chleifion edrych arnynt o'r wardiau.

Cafodd yr ysbyty deniadol ei olwg ei gynllunio gan y pensaer adnabyddus Sidney Colwyn Foulkes.

Caiff y gerddi eu trawsnewid gyda grant o £5,000 gan Gyfeillion Ysbyty Bae Colwyn ac mae'r prosiect wedi cael cymorth hefyd trwy Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr.

Caiff garddio pen bwrdd ei gyflwyno fel y gall cleifion fwynhau ychydig bach o arddio ysgafn. Mae astudiaethau wedi dangos y gall y math hwn o weithgarwch helpu gyda lles meddyliol cleifion. Mae garddio a threulio amser mewn mannau awyr agored yn llesol o ran cadw cleifion dementia rhag cynhyrfu, mae'n atal diflastod ac iselder ac mae'n lleihau ymosodedd ac yn helpu i gynnal cydbwysedd a chyd-drefniant.

Gwnaeth grŵp o wirfoddolwyr a staff ysbyty roi o'u hamser yn wirfoddol yn ddiweddar i chwynnu. Mae planhigion tymhorol newydd wedi'u plannu yn lle'r chwyn erbyn hyn, gan sicrhau y bydd lliw yn y gerddi trwy gydol y flwyddyn.

"Mae ychydig bach o gariad yn cael ei roi yn ôl yn yr ardd ac rydw i'n ddiolchgar iawn am haelioni Cyfeillion Ysbyty Bae Colwyn, sy'n rhan o Elusen y GIG yng Ngogledd Cymru, Awyr Las, am gefnogi'r prosiect. Mae'n brosiect gwych a fydd yn fuddiol i iechyd a lles cleifion, staff ac ymwelwyr," meddai Swyddog yr Amgylchedd BIPBC, Jenny Usher-Jones.

Dywedodd Elizabeth Anderson, gweithiwr cymorth dementia:

"Mae'r staff wedi cyffroi'n lân bod y gerddi'n mynd i gael eu hadnewyddu a'u caru unwaith eto.

"Caiff llawer o blanhigion a blodau persawrus ac sy'n peillio eu plannu. Hoffwn ddiolch i Kings Garden yn Sir Ddinbych am ein helpu a'n cynghori gyda'r prosiect."

Ychwanegodd: Mae'n ymwneud â sicrhau bod gan gleifion gysylltiad â byd natur. Mae'r ardd hon wastad wedi bod yn hafan i gleifion a staff fel ei gilydd, ond bydd hyd yn oed yn brafiach erbyn hyn."

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here